Argraffnodau ar ddeunydd argraffedig: Pleidiau gwleidyddol yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Intro

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, mae rheolau o ran rhoi argraffnodau ar ddeunyddiau etholiadol argraffedig. Rydym yn rheoleiddio cydymffurfiaeth gyda'r rheolau hynny.

Pryd bynnag y caiff deunydd etholiadol argraffedig ei gyhoeddi, mae’n rhaid iddo gynnwys manylion penodol (yr ydym yn eu galw’n ‘argraffnod’) i ddangos pwy sy’n gyfrifol am y deunydd. Mae hyn yn helpu sicrhau bod tryloywder o ran pwy sy’n ymgyrchu.

Mae’r rheolau parthed argraffnodau yn gymwys i bob plaid wleidyddol. Maent yn gymwys pryd bynnag y byddwch yn cynhyrchu deunydd argraffedig sy’n hyrwyddo eich plaid. Mae'r daflen ffeithiau hon yn esbonio'r rheolau y mae rhaid i chi eu dilyn.

Mae rheolau argraffnodau gwahanol yn gymwys i bleidiau gwleidyddol yn etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau cynghorau yn yr Alban. Gweler Argraffnodau ar gyfer pleidiau gwleidyddol - Etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau cynghorau yn yr Alban am ragor o fanylion.

Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio’r rheolau y mae rhaid i chi eu dilyn wrth ymgyrchu mewn unrhyw etholiad arall.

O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae argraffnodau hefyd yn ofynnol ar ddeunydd digidol penodol. Nid yw’r daflen ffeithiau yn cynnwys y rhan honno o’r gyfraith. Gweler ein canllawiau statudol ar argraffnodau digidol am y gofynion ynghylch argraffnodau ar ddeunydd digidol.