Argymell newidiadau i gyfreithiau cyllid gwleidyddol i wella tryloywder a hyder mewn etholiadau
Cyllid gwleidyddol, newidiadau yn y gyfraith
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi galw am newidiadau i'r gyfraith i wella tryloywder a gwella hyder yn rheolau cyllid gwleidyddol y DU, mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw ar reoleiddio cyllid gwleidyddol yn etholiad cyffredinol Senedd y DU. Heddiw hefyd, cyhoeddwyd cofnodion gwariant ymgyrchu pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau wariodd £250,000 neu lai yn ymgyrchu yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017 a manylion gwariant a rhoddion ymgeiswyr.
Rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn etholiad cyffredinol Senedd y DU Mehefin 2017
Mae'r Comisiwn yn adrodd bod y mwyafrif o ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau wedi cydymffurfio’n llawn gyda'r rheolau ar ymgyrchu yn etholiad cyffredinol Senedd y DU.
Gwnaeth ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddefnydd mawr o ymgyrchu digidol yn yr etholiad yma, gan roi cyfleoedd newydd i ymgyrchwyr ymgysylltu â phleidleiswyr, ond mae'r adroddiad hefyd yn mynd i'r afael â risgiau i dryloywder. Mae argymhellion y Comisiwn yn cynnwys:
- Dylid gofyn bod deunydd ymgyrchu ar-lein a gynhyrchir gan bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau - fel y fersiynau printiedig - gynnwys argraffnod yn nodi pwy sydd wedi ei gyhoeddi. Byddai hyn yn galluogi pleidleiswyr i nodi pwy sy'n gwario arian yn ceisio dylanwadu arnynt mewn etholiadau.
- Dylid bod gofyn i ymgyrchwyr adrodd mwy o fanylion gwariant, gan gynnwys gwahanol fathau o hysbysebu megis ar-lein a hyrwyddo cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r Comisiwn hefyd yn parhau i argymell fod ei bwerau ymchwilio a chosbi mewn etholiadau mawr yn cael eu hymestyn i gynnwys troseddau o ran gwariant a rhoddion ymgeiswyr.
Dywedodd Syr John Holmes, cadeirydd y Comisiwn Etholiadol:
Mae'r rhan fwyaf o ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr yn cydymffurfio gyda'r rheolau. Fodd bynnag, gall methu a chydymffurfio leihau tryloywder a niweidio hyder y cyhoedd mewn etholiadau, sef pam bod angen delio gydag achosion o dorri rheolau yn effeithiol. Ry'n ni am weithio gyda llywodraethau a chyrff deddfu'r DU i sicrhau bod mwy o dryloywder ynghylch gwariant ar ymgyrchoedd digidol ac ar-lein, ac i sicrhau pleidleiswyr yn yr un modd. Dylai'r newidiadau fod yn eu lle cyn yr etholiadau ledled y DU nesaf.
Cofnodion gwariant ymgyrchu etholiad cyffredinol Senedd y DU, llai na £250,000
Safodd saith deg pump o bleidiau gwleidyddol ymgeiswyr yn ystod etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017.
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir oedd yn rhedeg o 9 Mehefin 2016 i'r diwrnod pleidleisio ddydd Iau 8 Mehefin 2017:
- Adroddodd pedwar ar hugain o bleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr eu bod wedi gwario cyfanswm o £189,948 ar ymgyrchu. Cyflwynodd naw ar hugain o bleidiau eraill gofnodion a ddim, a methodd pedair o bleidiau gyflwyno eu cofnodion gwariant erbyn y dyddiad cau.
- Adrodd un blaid ar ddeg yng Ngogledd Iwerddon wario cyfanswm o £118,071
- Cyflwynodd dau ar bymtheg o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gofnodion i'r Comisiwn gyda chyfanswm o £1,864,599.
Gwariodd saith o bleidiau gwleidyddol dros £250,000 yn ymgyrchu yn etholiad cyffredinol Senedd y DU. Mae gan y pleidiau hyn nes 8 Rhagfyr 2017 i gyflwyno cofnod wedi'i archwilio'n annibynnol i'r Comisiwn. Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon ddechrau flwyddyn nesaf.
Mae'r tablau isod yn dangos y deg plaid wleidyddol, y mae eu cofnodion wedi'u cyhoeddi heddiw, gyda'r gwariant ymgyrchu uchaf a adroddwyd. Mae'r ail dabl yn dangos y gwariant adroddwyd gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau y mae eu cofnodion wedi eu cyhoeddi heddiw.
Tabl 1: Y 10 plaid ym Mhrydain Fawr adroddodd wario llai na £250,000
Enw'r blaid | Gwariant |
---|---|
Plaid Cymru | £105,656 |
Y Blaid Gydweithredol | £40,078 |
National Health Action Party | £13,284 |
Christian Peoples Alliance | £8,844 |
Humanity | £4,255 |
The Radical Party | £3,814 |
Animal Welfare Party | £3,147 |
Scotland's Independence Referendum Party | £1,575 |
Plaid Werdd yr Alban | £1,368 |
Blue Revolution | £1,077 |
Mae ffigyrau gwariant pleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon i'w gweld yma
Tabl 2:ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Enw ymgyrchydd nad yw'n blaid | Gwariant |
---|---|
League Against Cruel Sports (UK) Limited | £226,414 |
Undeb Unite | £213,014 |
National Association of Schoolmaster Union of Women Teachers (enw ymgyrchu: NASUWT The Teachers' Union) | £210,317 |
UNISON | £187,848 |
Mr Henry Porter | £160,728 |
Compass | £139,290 |
HOPE not hate Ltd | £125,837 |
People's Assembly Against Austerity | £104,504 |
Open Britain Ltd | £91,980 |
Britain Yearly Meeting of the Religious Society of Friends (Quakers) | £76,385 |
Scotland In Union | £73,818 |
The World Transformed | £60,590 |
Referendum Facts | £43,982 |
Friends of the Earth Trust | £43,385 |
Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu | £40,164 |
Momentum | £38,743 |
Jeremy J Hosking | £27,600 |
Mae cyfanswm faint wariwyd gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn etholiad cyffredinol Senedd y DU yn fwy na £1.8 miliwn ar hyn o bryd, sy'n dangos pam ei bod hi'n bwysig bod rheolau ynghylch eu gwariant a'u cyllido i sicrhau tryloywder i bleidleiswyr.
Yn ogystal â'r gwariant cyffredinol, mae pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn dynodi gwariant yn erbyn un o naw categori. Mae manylion fesul categori, yn ogystal â chopïau o anfonebau unigol a derbynebau ar gael ar wefan y Comisiwn yma.
Ffigyrau gwariant a rhoddion ymgeiswyr
Mae'r Comisiwn hefyd wedi cyhoeddi taenlen yn amlinellu’r cyfanswm a wariwydgan ymgeiswyr yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017, sydd i'w weld yma.
Safodd 3,304 o ymgeiswyr yn etholiad cyffredinol Senedd yDU ar 8 Mehefin 2017 ym Mhrydain Fawr, gan wario cyfanswm o £13,736,184.69.
Roedd gofyn bod ymgeiswyr yn yr etholiad yn cyflwyno cofnod gwariant i’r Swyddog Canlynidaau ar gyfer eu hetholaeth heb fod yn hwyrach na 35 diwrnod ar ôl cyhoeddi’r canlyniad. Mae pob un o’r cofnodion hyn ar gael i’w harchwilio’n gyhoeddus drwy gysylltu gyda’r Swyddog Canlyniadau perthnasol.
Gorfodi
Gallu methu â chydymffurfio gyda chyfreithiau cyllid gwleidyddol leihau tryloywder i bleidleiswyr a hyder bod etholiad wedi ei gynnal yn dda. Mae hi felly'n bwysig delio gydag achosion o dorri'r rheolau yn gadarn ac effeithiol.
Methodd chwech o bleidiau gwleidyddol i ddanfon eu cofnodion gwariant erbyn y dyddiad statudol o 8 Medi, ac maent yn cael eu hymchwilio. Mae dau o ymgyrchwyr eraill yn cael eu hymchwilio am gofnodion gwariant sydd o bosib yn anghyflawn. Ry’n ni’n parhau i adolygu’r cofnodion gwariant i weld os ydynt yn cydymffurfio â’r rheolau.
Caiff pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau efallai nad oeddent wedi bodloni'r rheolau adrodd eu hystyried yn unol â pholisi gorfodi'r Comisiwn Etholiadol, sydd ar gael ar ein gwefan. Rydym yn cyhoeddi manylion cosbau yn fisol yma.
Diwedd
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa'r cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Mae'n gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Cyflwynodd Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda (2000) reoliadau ar wariant ymgyrchu gan bleidiau gwleidyddol sy'n brwydro etholiadau Senedd y DU. Roedd gofyn i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau wariodd £250,000 neu lai i gyflwyno eu cofnodion erbyn 8 Medi 2017. Mae'n rhaid i bleidiau sy'n gwario mwy na £250,000 anfon adroddiad i'r Comisiwn o fewn chwe mis o'r etholiad.
- Y saith plaid wleidyddol sy'n cyflwyno cofnodion dros £250,000 yw'r Blaid Geidwadol, y Blaid Werdd, y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP), Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) a Women’s Equality Party. Disgwylir i ddau o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, Best for Britain a National Union of Teachers i gyflwyno cofnodion wedi'u harchwilio o dros £250,000.
- Mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gofrestru gyda'r Comisiwn cyn iddynt allu gwario mwy na £20,000 ar ymgyrchu yn Lloegr neu mwy na £10,000 ar ymgyrchu yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac mae gofyn iddynt gyflwyno cofnod gwariant os wnaethant ymgyrchu a gwario dros y symiau hyn yn etholiad cyffredinol Senedd y DU.
- Mae ffigyrau yn y datganiad yma wedi eu talgrynnu i'r £ agosaf.