Astudiaeth fawr yn dangos bod angen gwneud newidiadau i helpu mwy o bobl i sicrhau eu bod yn gallu pleidleisio
Introduction
Mae angen diweddaru prosesau cofrestru etholiadol er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl wedi'u cofrestru, yn ôl astudiaeth newydd gan y Comisiwn Etholiadol. Yn yr adolygiad manwl cyntaf o gyflwr cofrestrau etholwyr mewn tair blynedd, mae'r ymchwil yn nodi, er bod cyfran y bobl ifanc sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio ym Mhrydain Fawr yn parhau'n sefydlog, bod pobl ifanc a rhentwyr preifat yn parhau i fod yn llai tebygol o fod wedi'u cofrestru'n gywir.
Canfu ymchwil y Comisiwn fod 17% o bleidleiswyr cymwys ym Mhrydain Fawr heb eu cofrestru’n gywir yn eu cyfeiriad presennol, sef cymaint â 9.4 miliwn o bobl. Rhentwyr preifat yw'r rhai lleiaf tebygol o hyd i gael cofnodion cyfredol ar y gofrestr (58%) o gymharu â phobl sy'n berchen ar eu tai yn llwyr (91%). Mae lefelau cofrestru hefyd yn isel ymysg pobl ifanc rhwng 18 a 34 oed, a dim ond 71% sydd wedi'u cofrestru'n gywir, o gymharu â 94% ar gyfer pobl 65 oed a throsodd.
Mae'r Comisiwn wedi galw o'r newydd am foderneiddio'r system gofrestru etholiadol ym Mhrydain Fawr er mwyn ei gwneud yn haws i bleidleiswyr a gweinyddwyr etholiadol gadw'r cofrestrau etholwyr yn gywir ac yn gyflawn drwy gydol y flwyddyn.
Wrth sôn am yr astudiaeth, dywedodd Syr John Holmes, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol:
"Mae Llywodraethau'r DU yn cymryd camau pwysig i wella'r system bresennol, ond mae angen gwneud mwy o hyd er mwyn sicrhau bod cofrestru'n haws i bawb ac, yn hollbwysig, er mwyn helpu grwpiau sydd wedi'u tangofrestru, fel pobl ifanc a rhentwyr preifat, i sicrhau eu bod wedi'u cofrestru.
"Gallai gwell ddefnydd o ddata cyhoeddus fod yn allweddol i foderneiddio'r broses gofrestru etholiadol. Rydym yn gwybod efallai nad yw cofrestru i bleidleisio yn flaenoriaeth pan fo pobl yn symud tŷ. Byddai sicrhau bod gweinyddwyr etholiadol yn gallu cael gafael ar ddata cyhoeddus dibynadwy a data y gellir ymddiried ynddynt yn eu helpu i nodi pobl sydd wedi symud ac sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio yn haws. Byddai gallu newid eich manylion cofrestru etholiadol wrth ddiweddaru eich trwydded yrru yn ffordd arall o'i gwneud yn haws i bobl sicrhau eu bod wedi'u cofrestru.
"Mae angen i Lywodraethau yn y DU gyflwyno deddfwriaeth er mwyn galluogi'r mathau hyn o welliannau, fel bod dinasyddion democratiaeth yr 21ain ganrif yn gallu bod ar y gofrestr o etholwyr yn hawdd."
Feasibility studies
Roedd Astudiaethau dichonoldeb, a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ym mis Gorffennaf yn ymchwilio i'r ffyrdd gwahanol y gallai data cyhoeddus wella'r system gofrestru etholiadol a sut y gallai diwygiadau i'r broses gofrestru weithio yn ymarferol. Gallai diwygiadau fel defnyddio data yr Adran Gwaith a Phensiynau i gofrestru pobl ifanc yn awtomatig pan gânt eu rhif Yswiriant Gwladol, er enghraifft, gael effaith gadarnhaol go iawn ar lefelau cofrestru.
Diwedd
Cefndir
- Gellir darllen Cywirdeb a Chyflawnrwydd y cofrestrau etholwyr ym Mhrydain Fawr ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
- Mae'r adnodd delweddu data ar Gywirdeb a Chyflawnrwydd ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol (dolen ar gael am 00.01 Dydd Iau Medi 26)
- Mae'r Comisiwn yn amcangyfrif bod rhwng 8.3 miliwn a 9.4 miliwn o bleidleiswyr cymwys ym Mhrydain Fawr heb eu cofrestru'n gywir yn eu cyfeiriad presennol. Nid yw'n bosibl cyfrifo'r nifer absoliwt o bobl nad ydynt wedi'u cofrestru'n gywir yn eu cyfeiriad presennol gan na ellir pennu'n sicr faint y boblogaeth sy'n gymwys i bleidleisio ym Mhrydain Fawr. Mae'r amcangyfrif felly'n seiliedig ar amcangyfrif o gyflawnrwydd ac amcangyfrif o gyfanswm y boblogaeth sy'n gymwys. Mae rhagor o wybodaeth i'w gweld ar wefan y Comisiwn.
- Mae'r astudiaethau cywirdeb a chyflawnrwydd yn asesu ansawdd y cofrestrau etholwyr ar ôl gwneud newidiadau i gyfraith etholiadol, gweinyddu etholiadau a newidiadau poblogaeth. Cafodd data eu casglu drwy arolwg o dŷ i dŷ o 5,079 o gyfeiriadau ledled 127 o ardaloedd awdurdodau lleol.
- Caiff ansawdd y cofrestrau etholwyr ei fesur mewn dwy brif ffordd: eu cywirdeb a'u cyflawnrwydd
- Ystyr cywirdeb yw 'nad oes unrhyw gofnodion anwir ar y cofrestrau etholwyr'. Felly, mae cywirdeb yn mesur canran y cofnodion ar y cofrestrau sy'n ymwneud â phleidleiswyr sydd wedi'u dilysu ac sy'n gymwys sy'n byw yn y cyfeiriad hwnnw. Gall cofnodion anghywir ar y gofrestr ymwneud â chofnodion diangen (er enghraifft, yn sgil symud tŷ), nad ydynt yn gymwys ac sydd wedi'u cynnwys yn anfwriadol, neu sy'n dwyllodrus.
- Ystyr cyflawnrwydd yw bod 'pawb sy'n gymwys i'w cynnwys ar gofrestr etholwyr wedi'u cofrestru’. Mae cyflawnrwydd yn cyfeirio at ganran y bobl gymwys sydd wedi'u cofrestru yn eu cyfeiriad presennol. Mae canran y bobl gymwys nad ydynt wedi'u cynnwys ar y gofrestr yn eu cyfeiriad presennol yn gyfystyr â'r gyfradd o dangofrestru.
- Mae'r Comisiwn hefyd wedi cyhoeddi adroddiad ar Gywirdeb a Chyflawnrwydd y cofrestrau etholwyr yng Ngogledd Iwerddon. Gellir gweld hwn ar wefan y Comisiwn (dolen ar gael am 00.01 Dydd Iau Medi 26)
- Cyhoeddwyd astudiaeth cywirdeb a chyflawnrwydd blaenorol y Comisiwn ym mis Awst 2016. Canfu fod cywirdeb cyffredinol cofrestrau etholwyr ym Mhrydain Fawr wedi cynyddu ar ôl cwblhau'r gwaith o symud i Gofrestriad Etholiadol Unigol ym mis Rhagfyr 2015. Canfu ymchwil y Comisiwn fod 16% o bleidleiswyr cymwys heb eu cofrestru'n gywir yn eu cyfeiriad presennol ar 1 Rhagfyr 2015, sef cymaint ag 8.3 miliwn o bobl. Mae rhagor o fanylion i'w gweld ar ein gwefan.
- Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi canfyddiadau ei astudiaethau dichonoldeb ar foderneiddio cofrestru etholiadol. Gallwch eu gweld ar wefan y Comisiwn.
Nodiadau i olygyddion
- I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i press@electoralcommission.org.uk
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
- Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.