Cais gan y Comisiwn Etholiadol am ganiatâd i apelio yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys
Sylwadau ar Ddyfarniad yr Uchel Lys
Heddiw, bydd y Comisiwn Etholiadol yn cyflwyno cais am ganiatâd i apelio yn erbyn dyfarniad a wnaed gan yr Uchel Lys ddydd Gwener diwethaf (14 Medi).
Wrth roi sylwadau ar y cais am ganiatâd i apelio, dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol:
Heddiw rydym yn cyflwyno cais i'r Uchel Lys am ganiatâd i apelio yn erbyn dyfarniad a wnaed yr wythnos diwethaf ynghylch dehongliad o bwynt cyfreithiol mewn perthynas â rhoddion a gwariant ymgyrchu. Rydym yn ystyried goblygiadau'r dyfarniad hwn, gan gynnwys sut y gallai effeithio ar ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau mewn pob math o etholiad neu refferendwm. Rhaid i'r gyfraith fod mor glir â phosibl er mwyn galluogi ymgyrchwyr i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn llawn ac yn deg. Os cawn ganiatâd i apelio, bydd hyn yn llywio unrhyw benderfyniad a wnawn ynghylch apelio yn erbyn y dyfarniad ai peidio.
Diwedd
Cefndir
Ddydd Gwener 14 Medi, dyfarnodd yr Uchel Lys fod rhoddion gan un grŵp ymgyrchu i grŵp ymgyrchu arall yn gyfreithlon, ond y gall fod yn rhaid i'r person neu'r grŵp ymgyrchu sy'n gwneud rhodd hefyd ei datgan fel gwariant, os yw'n bodloni meini prawf penodol sy'n golygu ei bod at ddiben penodol. Mae'r dyfarniad i'w weld ar wefan Barnwriaeth y Llysoedd a'r Tribiwnlysoedd: https://www.judiciary.uk/judgments/good-law-project-v-electoral-commission/.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid,
- anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.