Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Cyllido torfol

Beth yw cyllido torfol?

Cyllido torfol yw pan ddefnyddir llwyfan ar y we i gasglu rhoddion. Yn gyffredinol, caiff y llwyfan ei reoli gan ddarparwr trydydd parti a bydd gan bob ymgyrch codi arian unigol dudalen ar y wefan. Fel arfer caiff ymgyrchoedd eu cynnal am gyfnod penodol. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, caiff yr arian a godwyd, ar ôl tynnu ffi a delir i'r darparwr, ei drosglwyddo i'r derbynnydd.

Tryloywder

Dylech sicrhau bod y dudalen we cyllido torfol yn nodi'n glir i bwy y rhoddir yr arian ac at ba ddiben. Er enghraifft, dylech egluro a yw'r cyllid yn cael ei godi i dalu eich treuliau etholiad, ar gyfer eich ymgyrch i gael eich dewis fel ymgeisydd, neu a yw ar gyfer cronfa ymladd plaid leol. Mae hyn oherwydd bod trothwyon cofnodi ac adrodd gwahanol ar gyfer rhoddion i ymgeiswyr a phleidiau.

Dylech sicrhau bod y dudalen we yn cynnwys gwybodaeth sy'n esbonio y caiff gwiriadau eu cynnal er mwyn sicrhau bod ffynonellau rhoddion yn rhai a ganiateir yn unol â'r gyfraith, ac y gall gwybodaeth am roddion, gan gynnwys manylion rhoddwyr, gael eu cyhoeddi. Bydd Swyddogion Canlyniadau yn sicrhau bod ffurflenni a baratowyd gan ymgeiswyr ar gael i'w harchwilio ar ôl etholiadau. Mae'r rhain yn cynnwys manylion rhoddion.

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn cynnwys argraffnod ar eich tudalen cyllido torfol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Rhagfyr 2023