Dim ond o ffynhonnell a ganiateir y gallwch dderbyn rhoddion dros £50.
Fel gyda phob math o rodd, mae gennych 30 diwrnod i gynnal gwiriadau er mwyn cadarnhau bod ffynhonnell y rhodd yn un a ganiateir a dychwelyd y rhodd os na chaiff ei chaniatáu. 1
Y dyddiad derbyn yw'r dyddiad y byddwch yn cael y cyllid o'r wefan cyllido torfol.
Ni chaiff arian a roddir drwy dudalen we cyllido torfol sy'n £50 neu'n llai ei ystyried yn rhodd o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac nid oes rhaid rhoi gwybod amdano. 2
Dylech sicrhau bod gennych ddigon o wybodaeth gan ddarparwr y llwyfan cyllido torfol a'ch bod yn cadw eich cofnodion mewn ffordd sy'n eich galluogi i ganfod a oes sawl rhodd wedi dod o'r un ffynhonnell.
Rhaid i chi gasglu gwybodaeth ddigonol gan bob rhoddwr i sicrhau y gallwch gadarnhau'n briodol fod pob rhodd gan ffynhonnell a ganiateir. Dylech nodi'n glir ar y dudalen we mai dyma'r rheswm rydych yn casglu unrhyw wybodaeth. Os nad ydych yn siŵr pwy yw'r rhoddwr gwirioneddol rhaid i chi beidio â derbyn y rhodd. Ni allwch dderbyn rhoddion dienw gyda gwerth o fwy na £50.
Rhaid i chi hefyd gasglu gwybodaeth ddigonol i gydymffurfio â gofynion adrodd.
Cryptoarian
Arian cyfred digidol sy'n gweithredu'n annibynnol ar unrhyw fanc neu awdurdod canolog yw cryptoarian.
Mae'r un rheolau'n berthnasol i roddion a geir mewn cryptoarian ag unrhyw roddion eraill. Rhaid casglu gwybodaeth ddigonol er mwyn cadarnhau bod rhoddion yn rhai a ganiateir. Rhaid bod ffordd o brisio unrhyw rodd a geir mewn unrhyw gryptoarian.
1. Schedule 2A, paragraph 7 Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) and section 56(2) Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (PPERA)↩ Back to content at footnote 1