Sut rydych yn penderfynu p'un a allwch dderbyn rhodd?
Dim ond rhoddion gan rai ffynonellau penodol y gellir eu derbyn, sydd wedi'u lleoli yn y DU yn bennaf. 1
Ceir manylion ynghylch pa ffynonellau a ganiateir yn Gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion?
Cyn i chi dderbyn unrhyw rodd o fwy na £50 at ddiben talu treuliau etholiad, rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i:
sicrhau eich bod yn gwybod pwy yw'r rhoddwr
cadarnhau bod y rhodd gan ffynhonnell a ganiateir 2
Os nad yw'n gwbl glir pwy y dylech ei drin fel rhoddwr, cadarnhewch y ffeithiau er mwyn gwneud yn siŵr.
Faint o amser sydd gennych i gadarnhau a yw rhodd yn un a ganiateir?
Pan fyddwch yn cael rhodd, bydd gennych 30 diwrnod i gadarnhau'r hyn a ganiateir a dychwelyd y rhodd os na chaiff ei chaniatáu. 3
Os cadwch rodd am fwy na 30 diwrnod, tybir eich bod wedi ei derbyn. 4
Os cadwch rodd nas caniateir ar ôl y cyfnod hwn, efallai y byddwch yn cyflawni trosedd a gallwn wneud cais i'r llysoedd iddi gael ei fforffedu i ni i'w thalu i mewn i'r gronfa gyfunol. 5
Os ydych wedi derbyn rhodd nas caniateir, dylech ddweud wrthym mor fuan â phosibl.
Hyd yn oed os ydych wedi cynnal gwiriad i gadarnhau bod rhodd cynharach gan yr un ffynhonnell yn un a ganiateir, dylech ystyried p'un a fyddwch yn cynnal gwiriad newydd ar gyfer pob rhodd ddilynol.
Dylech gadw cofnod o'ch holl wiriadau i gadarnhau a yw rhoddion yn rhai a ganiateir er mwyn dangos eich bod wedi dilyn y gyfraith.
Os nad yw'r rhodd gan roddwr a ganiateir, neu os na allwch fod yn siŵr pwy yw'r ffynhonnell wirioneddol am unrhyw reswm, darllenwch Sut rydych yn dychwelyd rhodd? i gael canllawiau pellach ar y camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd.