Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Unigolion

Beth sy'n gwneud unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir?

Rhaid i unigolion fod ar un o gofrestrau etholiadol y DU ar adeg rhoi'r rhodd. 1  Mae hyn yn cynnwys etholwyr tramor.

Sut rydych yn cadarnhau'r hyn a ganiateir?

Gallwch ddefnyddio'r gofrestr etholiadol i gadarnhau a yw unigolyn yn rhoddwr a ganiateir. Mae hawl gan ymgeiswyr a'u hasiantiaid i gael copi am ddim o'r gofrestr etholiadol lawn yn y cyfnod cyn etholiad. 2  Dim ond er mwyn cadarnhau a yw rhoddwr yn rhoddwr a ganiateir neu at ddibenion etholiadol eraill y cewch ddefnyddio'r gofrestr. Rhaid i chi beidio â'i rhoi i unrhyw un arall.3

Dylech gysylltu â'r adran cofrestru etholiadol yn y cyngor lleol neu
Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon, fel sy'n briodol, i gael eich copi, gan esbonio eich bod yn gofyn am un fel ymgeisydd mewn etholiad, neu fel asiant etholiad ar ran yr ymgeisydd. 4

Dylech ofyn i'r adran anfon yr holl ddiweddariadau i'r gofrestr atoch hefyd. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall enw etholwr gael ei dynnu oddi ar y gofrestr ac felly ar adeg rhoi rhodd efallai na fydd yn rhoddwr a ganiateir. Byddwch yn cael y gofrestr ar ffurf electronig oni bai eich bod yn gofyn am fersiwn argraffedig o'r gofrestr. 5

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt cynghorau lleol drwy ddefnyddio ein hadnodd chwilio codau post.

Rhaid i chi edrych ar y gofrestr a'r diweddariadau'n ofalus, er mwyn sicrhau bod y person ar y gofrestr ar y dyddiad y cawsoch y rhodd.

O dan amgylchiadau arbennig, mae gan bobl gofrestriad dienw. Os yw'r unigolyn wedi'i gofrestru'n ddienw, rhaid i chi ddarparu datganiad i gadarnhau eich bod wedi gweld tystiolaeth bod gan yr unigolyn gofnod dienw ar y gofrestr. 6  Bydd tystiolaeth ar ffurf tystysgrif o gofrestriad dienw. Rhaid i chi gyflwyno copi o'r dystysgrif gyda'r datganiad hwn ynghyd â'ch ffurflen gwariant. 7

Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi? 

Rhaid i chi gofnodi:

  • enw llawn y rhoddwr 
  • y cyfeiriad fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr etholwyr, neu os mai etholwr tramor yw'r person, ei gyfeiriad cartref (boed yn y DU neu rywle arall) 8

Efallai y bydd yn ddefnyddiol nodi rhif etholiadol y rhoddwr fel cofnod o'ch gwiriadau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Gorffennaf 2024