Adnoddau i'r Cyfryngau
Llawlyfrau'r Cyfryngau
Rydym wedi tynnu ynghyd ystod o adnoddau i helpu’r cyfryngau i adrodd am etholiadau yn y DU.
Ar 6 Mai 2021, bydd etholiadau’n cael eu cynnal yng Nghymru, yr Alban, a Lloegr. Rydym wedi creu llawlyfrau i’r wasg er mwyn ateb cwestiynau sy’n ymwneud â rheoleiddio a gweinyddu pob etholiad, ac er mwyn darparu gwybodaeth hanfodol i bleidleiswyr. Rydym hefyd wedi datblygu llawlyfr sy’n ymwneud â’r sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol, a sut y bydd honno’n effeithio ar yr etholiadau eleni.
Mae hefyd ystod o adnoddau gweledol ar gael, gan gynnwys delweddau a fideos ynghylch cofrestru pleidleiswyr a dewisiadau pleidleisio, a gellir ymgorffori’r rhain mewn erthyglau, ar wefannau, ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mae gan y Comisiwn llefaryddion ar gael ar gyfer cyfweliadau. Cysylltwch â swyddfa’r wasg trwy press@electoralcommission.org.uk neu 020 7271 0704 os oes gennych unrhyw gwestiynau neu geisiadau.