Etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru
Introduction
Nod y canllaw hwn yw rhoi atebion i gwestiynau allweddol am yr etholiadau llywodraeth leol sydd ar ddod yng Nghymru, o ran ymgeiswyr, gwariant a rhoddion, a'r broses bleidleisio. Gallwch ddefnyddio'r blwch cynnwys i neidio'n hawdd i adrannau gwahanol o'r dudalen we hon, a chlicio ar y ddewislen gwestiynau i weld yr atebion.
Amserlen etholiad
Digwyddiad |
Dyddiad cau |
Cyhoeddi hysbysiad etholiad |
Dydd Llun 28 Mawrth |
Cyflwyno papurau enwebu |
4pm ddydd Mawrth 5 Ebrill |
Cyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwyd |
4pm ddydd Mercher 6 Ebrill |
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i gofrestru i bleidleisio |
11:59pm ddydd Iau 14 Ebrill |
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i bleidleisio drwy'r post, gwneud cais am bleidlais bost drwy ddirprwy, ac ar gyfer newidiadau i bleidleisiau post neu bleidleisiau drwy ddirprwy sy'n bodoli eisoes |
5pm ddydd Mawrth 19 Ebrill |
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy |
5pm ddydd Mawrth 26 Ebrill |
Cyhoeddi hysbysiad pleidleisio |
Dydd Mawrth 26 Ebrill fan bellaf |
Diwrnod pleidleisio |
7am i 10pm ddydd Iau 5 Mai (heblaw am awdurdodau sy'n treialu pleidleisio cynnar) |
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a ddifethwyd neu a gollwyd |
5pm ddydd Iau 5 Mai |
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i fwrw pleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng |
5pm ddydd Iau 5 Mai |
Cyflwyno cofnod treuliau etholiad |
35 diwrnod calendr ar ôl y diwrnod y mae'r canlyniadau wedi cael eu datgan |
Dod yn ymgeisydd
Ymgyrchu yn yr etholiad
Rheolau ar wariant a rhoddion
Cofrestru i bleidleisio
Y broses bleidleisio
Pleidleisio'n bersonol
Pleidleisio absennol
Y cyfrif a datgan y canlyniadau
Twyll etholiadol
Rolau a chyyfrifoldebau yn yr etholiadau
Swyddog Canlyniadau
Y Swyddog Canlyniadau sy'n gyfrifol yn bersonol am gynnal yr etholiad llywodraeth leol, gan gynnwys y broses enwebu, cyfrif y pleidleisiau a datgan y canlyniad.
Swyddogion Cofrestru Etholiadol
Mae Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EROs yn Saesneg) yn gyfrifol am baratoi a chynnal y cofrestrau etholiadol a'r rhestr o bleidleiswyr absennol yn eu hardal. Rhaid iddynt sicrhau bod y cofrestrau etholiadol mor gywir a chyflawn â phosibl.
Swyddogion Llywyddu
Penodir Swyddogion Llywyddu gan Swyddogion Canlyniadau lleol i fod yn gyfrifol am orsafoedd pleidleisio. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys trefnu cynllun yr orsaf bleidleisio, goruchwylio clercod pleidleisio, rhoi papurau pleidleisio, helpu pleidleiswyr, rhoi cyfrif am bob papur pleidleisio a sicrhau y caiff blychau pleidleisio eu cludo'n ddiogel i leoliad y cyfrif.
Y Comisiwn Etholiadol
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb. Ein rôl yn yr etholiadau hyn yw:
- llunio canllawiau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol, pennu safonau perfformiad a rhoi gwybod pa mor dda y mae gweinyddwyr etholiadol yn ei wneud yn erbyn y safonau hyn
- llunio canllawiau i ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad a'u hasiantiaid
- llunio canllawiau ar gyfer pleidiau sy'n ymgyrchu yn yr etholiad
- llunio canllawiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n ymgyrchu yn yr etholiad
- cofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
- codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r etholiadau a sut i gymryd rhan ynddynt
- rhoi gwybod am y drefn cynnal yr etholiad
- cyhoeddi manylion ynghylch ble y mae pleidiau gwleidyddol yn cael eu harian a sut y maent yn ei wario
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ella Downing, Swyddog Cyfathrebu yn edowning@electoralcommission.org.uk / 02920 346824.