Casgliad asesiadau i honiadau ynghylch rhai o ymgyrchwyr Refferendwm yr UE
Diweddariad ar honiadau
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dod i gasgliad ar ei asesiadau o honiadau ynghylch gweithgareddau ymgyrchu cyfranogwyr a ganiateir penodol yn Refferendwm yr UE.
Honiadau a wnaed gan Y Gwir Anrh. Priti Patel AS
Gwnaed gohebiaeth gan Y Gwir Anrh. Priti Patel AS yn gyhoeddus ym mis Mai a Mehefin 2018. Roedd yn honni y dylai gwariant ar dri fideo ymgyrch fod wedi'i ddatgan fel 'ymgyrchu ar y cyd' gan Britain Stronger (BSIE) y prif ymgyrchydd 'aros' dynodedig. Gwnaed honiadau hefyd am gofrestriad hwyr nifer o ymgyrchwyr oedd yn gysylltiedig â BSIE.
- 5 seconds to Mark ân X / Don’t F**k My Future / Project Ruby videos
Gosodwyd y rheolau yn eu lle gan Senedd y DU ar gyfer Refferendwm yr UE. Roeddent yn caniatáu i ymgyrchwyr gydweithio i gyflawni canlyniad penodol. Lle bo 'cydweithio', nid oedd hawl gan ymgyrchwyr wario mwy na'u terfyn gwariant unigol, ac roedd yn rhaid iddynt gynnwys manylion yn eu cofnodion gwariant. Lle bo 'cydweithio' yn cynnwys prif ymgyrchydd dynodedig, roedd yr holl wariant yn cyfrif tuag at gyfanswm y prif ymgyrchydd.
Yn unol â'r rheolau, nid oedd y canlynol yn cyfrif fel cydweithio, gan fod caniatâd gwneud, ac nid yw’r rheolau’n pennu sut caiff arian ei wario:
- Rhoddion gan unigolyn neu grŵp i nifer o ymgyrchwyr.
- Un cyflenwr yn gweithio i nifer o ymgyrchwyr.
- Ymgyrchwyr yn cofrestru'n hwyr yn yr ymgyrch:
Felly mae'r Comisiwn wedi dod i'r casgliad:
- Roedd DDB Ltd (a elwir hefyd yn Adam and Eve) on ymgyrchydd cofrestredig yn Refferendwm yr UE. Fe wnaethant fynd i wariant ac adrodd amdano ar y fideos. Yn y mater yma does dim digon o le i amau bod BSIE wedi torri'r rheolau gwario ar y cyd.
- Nid yw DDB yn darparu gwasanaethau i fwy nag un ymgyrchydd; na BSIE yn cynnal fideo ymgyrchu ymgyrchydd arall ar ei wefan, ar eu pen eu hunain, yn dystiolaeth cydweithio gyda BSIE fel rhan o gynllun cyffredin.
- Fodd bynnag, yn dilyn gwybodaeth a ddarparwyd gan Ms Patel, ry'n ni wedi agor ymchwiliad i p'un a bod ymgyrchydd cofrestredig arall, 'Wake Up and Vote’ (WUAV) wedi mynd i wariant gyda DDB nad yw wedi'i ddatgan felly yn eu cofnodion gwariant.
- BSIE a chofrestru ymgyrchwyr yn hwyr
Honnwyd bod pump o ymgyrchwyr wedi'u creu gan BSIE a'i bod wedi gweithredu o dan gynllun cyffredin. Nid yw'r Comisiwn wedi derbyn nac wedi dod o hyd i dystiolaeth er mwyn agor ymchwiliad.
Ar wahân i hyn, mae'r Comisiwn wedi dod i gasgliad yn flaenorol, nad oedd darnau o lyfrau a gyhoeddwyd ers y refferendwm sy'n disgrifio cyfarfodydd dros y ffôn rhai ymgyrchwyr 'aros' penodol ac a gadeiriwyd gan BSIE yn bodloni'r meini prawf agor ymchwiliad. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y cyfarfodydd yn rhai cynghorol, ac nad oeddent yn cynnwys nac yn achosi penderfyniadau ar wariant refferendwm.
Mae ein blog: Pryd mae cydweithio'n torri'r rheolau? yn cynnwys mwy o wybodaeth ar y rheolau 'cydweithio'. Pe bai tystiolaeth o unrhyw achosion o dorri rheolau yn dod i law, bydd y Comisiwn yn ystyried y rhain yn unol â'r Polisi Gorfodi.
Honiadau a wnaed gan raglen BBC Northern Ireland Spotlight "Brexit, Dark Money and the DUP”
Dangoswyd rhaglen Spotlight BBC Northern Ireland ar 26 Mehefin 2018. Roedd yn cynnwys honiadau ynghylch p'un a oedd y DUP wedi mynd i wariant ar y cyd gydag ymgyrchwyr eraill Refferendwm yr UE ond nad oedd wedi ei ddatgan o dan gynllun cyffredin.
Ar ôl gofyn am fwy o dystiolaeth gan BBC Northern Ireland a chael gwybod nad oedd unrhyw "wybodaeth sylweddol" heblaw beth oedd yn y rhaglen, ystyriodd y Comisiwn p'un a bod ffynonellau eraill i dystiolaethu'r honiadau ynddo.
Daeth y Comisiwn i'r casgliad nad oedd ganddo sail i agor ymchwiliad i'r honiadau a waned gan BBC Northern Ireland Spotlight.
Mae'r Comisiwn yn parhau i fod wedi'i rwystro gan ddeddfwriaeth rhag datgelu unrhyw wybodaeth ynghylch rhoddion i dderbynwyr Gogledd Iwerddon a wnaed cyn 1 Gorffennaf 2017 (adran 71 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000). Ry'n ni'n parhau i alw ar i Lywodraeth y DU ddod â deddfwriaeth gerbron fydd yn ein galluogi i gyhoeddi gwybodaeth ar roddion o fis Ionawr 2014.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.