Cofnodion Panel Pleidiau Cynulliad Cymru Dyddiad: 18 Mehefin 2018

Cofnodion Panel Pleidiau Cynulliad Cymru 18 Mehefin 2018

Dyddiad: 18 Mehefin 2018

Yn bresennol

Cofnodion Panel Pleidiau Cynulliad Cymru 18 Mehefin 2018

Ymddiheuriadau

Gwahoddwyd cynrychiolydd ar ran UKIP ond ni ddaeth i’r cyfarfod.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf (29 Mawrth 2018) a chamau gweithredu

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.

Mae pob cam gweithredu o’r cyfarfod blaenorol wedi’i gwblhau heblaw’r un sy’n ymwneud â mynd i’r seminar ar uniondeb, nad yw dyddiad wedi’i bennu ar ei chyfer eto.

Cam gweithredu: Pleidiau gwleidyddol i benodi cynrychiolydd i fynd i’r seminar ar uniondeb

Sut y bydd y gallu i bleidleisio’n 16 oed yn effeithio ar ymgyrchu yng Nghymru?

Esboniodd ECS ei bod yn ymddangos mai un o flaenoriaethau’r rhaglen diwygio etholiadol yng Nghymru yw ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed. Gwahoddwyd Scott Martin o Blaid Genedlaethol yr Alban a Sarah Mackie o swyddfa’r Comisiwn yn yr Alban i sôn am eu profiadau o bleidleisiau i bobl ifanc 16 oed yn yr Alban.

Mae SMar yn gyfreithiwr ym Mhlaid Genedlaethol yr Alban ac mae’n gweithio ar ymgyrchu a sicrhau cydymffurfiaeth. Dywedodd fod y negeseuon ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed, a’r sianeli i gyfathrebu â nhw, yn eithaf tebyg i’r rhai ar gyfer pobl 18 oed.

Cododd problemau technegol gyda’r gofrestr a oedd yn ei gwneud yn anodd nodi pobl ifanc 16 a 17 oed. Nid yw’r gofrestr etholwyr yn cynnwys cyrhaeddwyr 14 a 15 oed felly nid oes modd nodi pobl ifanc 16 oed wrth iddynt ddod yn gymwys i bleidleisio.

Gall pobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau Senedd yr Alban ac mewn etholiadau lleol yn yr Alban ac roedd cefnogaeth drawsbleidiol o blaid cyflwyno hyn.

Ar adeg y refferendwm ar annibyniaeth crëwyd cofrestr o bobl ifanc a oedd ar wahân i’r gofrestr llywodraeth leol. Yr unig sefydliadau a oedd â’r hawl i gael y gofrestr gyfun lawn oedd y ddau sefydliad dynodedig. 

Ar adeg etholiadau Senedd yr Alban, roedd cofrestr llywodraeth leol gyfun a dim ond yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad y gellid cael gafael arni. Roedd pleidiau gwleidyddol yn gallu cael copi o’r gofrestr, yn cynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed, ond bu’n rhaid trin y gofrestr i’w nodi. Nid oeddent yn gallu nodi cyrhaeddwyr 15 oed.

Yn ystod yr etholiadau lleol yn yr Alban, ymgeiswyr, yn hytrach na phleidiau gwleidyddol, oedd yn sefyll etholiad ac felly ni allai’r blaid gael copi o’r gofrestr lawn. Byddai wedi bod yn rhaid i ymgeiswyr mewn 354 o wardiau wneud cais am y gofrestr ar gyfer eu ward y byddai angen ei llunio a’i chymharu.

Felly, mae’n anodd ymgysylltu â phobl ifanc 16 a 17 oed gan nad oedd modd eu nodi. Etholwyr anhysbys ydynt yn y bôn, nes eu bod yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 16 oed. Byddai’n ddefnyddiol cael diweddariadau pan fydd pleidleiswyr yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 16 oed, yn hytrach na’r etholwyr hynny’n cael eu hychwanegu ar adeg etholiad. Nid oes modd nodi’r etholwyr hyn yn ddigon cynnar i gysylltu â nhw’n unigol.

Esboniodd SMac fod ymgyrchoedd y Comisiwn Etholiadol yn cael eu cynnal yn wahanol i’r refferendwm ar annibyniaeth ac etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau lleol oherwydd y ddeddfwriaeth wahanol.

Cynhaliwyd y refferendwm ar annibyniaeth ym mis Medi. Roedd cyflwyno Cofrestru Etholiadol Unigol yn golygu bod oedi cyn cynnal y canfasiad cyn y refferendwm. Golygai hyn fod y gofrestr a oedd yn cael ei defnyddio yn seiliedig o hyd ar system cofrestru aelwydydd a bod llawer o bobl ifanc 15 oed wedi cael eu hadnabod yn y ffordd hon, llawer mwy nag sydd wedi cael eu nodi ers hynny o dan drefn Cofrestru Etholiadol Unigol. Fodd bynnag, bydd cofrestru ar-lein yn rhoi cyfleoedd newydd i gofrestru pobl ifanc. Felly, roedd y gofrestr mewn sefyllfa gref cyn ymgyrch codi ymwybyddiaeth y Comisiwn.

Pan gyflwynwyd deddfwriaeth ar gyfer oedran pleidleisio is, bu llawer o sôn mai’r rheswm dros hyn oedd y byddai pobl ifanc yn pleidleisio o blaid gadael a daeth y mater yn un gwleidyddol tu hwnt. O ganlyniad, gwrthododd nifer o gyfarwyddwyr addysg ganiatáu gweithgareddau codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn eu hysgolion. Roedd eraill yn caniatáu gweithgarwch a oedd yn ymwneud â chofrestru ond heb unrhyw drafodaeth wleidyddol. Nid oedd pob ysgol yn gyson o ran p’un a oedd yn gadael i un o’r grwpiau ymgyrchu neu’r ddau siarad â phleidleiswyr ifanc, a arweiniodd at gwynion bod dylanwadu annheg ar bobl ifanc. 

Roedd 92% o bobl ifanc 16 a 17 oed yn yr ysgol, roedd 7% mewn cyflogaeth ac roedd 1% yn cael eu hystyried yn anodd eu cyrraedd. Daeth y Comisiwn ynghyd ag Education Scotland, cyfarwyddwyr addysg, cynrychiolwyr athrawon ac arweinwyr ysgol i baratoi pecyn briffio a oedd yn cefnogi rhannau o’r cwricwlwm ac yn cynnig awgrymiadau ynglŷn â dadleuon cytbwys.

Dangosodd ymchwil i’r rhai a oedd wedi cael addysg ar y refferendwm fod pobl ifanc yn fwy tebygol o deimlo’n hyderus am bleidleisio os oeddent wedi cymryd rhan mewn dadleuon gwleidyddol. Roedd y rhai a oedd ond wedi cael gwybodaeth am y refferendwm a sut i gofrestru yn llai hyderus.

Honnodd 75% o bobl ifanc 16 a 17 oed eu bod wedi pleidleisio yn y refferendwm, o gymharu â 54% o bobl 18-25 oed. Mae astudiaethau yn Awstria wedi dangos, os gall pobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio, eu bod yn fwy tebygol o bleidleisio yn eu hetholiad cymwys cyntaf ac yn fwy tebygol o barhau i bleidleisio mewn etholiadau wedi hynny.

Ar gyfer etholiad Senedd yr Alban ym mis Mai 2016, cynhaliwyd gweithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn ystod canfasiad 2015, gyda chanlyniadau siomedig. Dangosodd yr adborth fod pobl ifanc yn teimlo bod yr etholiadau yn rhy bell i ffwrdd, sef naw mis i ffwrdd. Mae gweithgarwch sy’n agosach at y diwrnod pleidleisio yn llawer mwy buddiol i’r grŵp hwn.

Cynhaliwyd ymgyrch ‘Ready to Vote’ yn 2016 a 2017. Cafodd y gweithgarwch ei gydlynu ar ddyddiad penodol ym mis Mawrth. Darparwyd pecynnau cymorth i ysgolion a oedd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i gynnal sesiynau cofrestru, cwestiynau cyffredin, sesiynau trafod enghreifftiol, adnoddau cyfryngau cymdeithasol a phosteri. Mae rhai dosbarthiadau yn cynnwys cymysgedd o ddisgyblion a fydd yn gallu pleidleisio ar ddiwrnod pleidleisio a rhai nad ydynt yn ddigon hen eto. Anogwyd y rhai a fyddai’n 16 oed erbyn y diwrnod pleidleisio i ddod â’u rhifau YG i gofrestru yn ystod sesiynau’r ysgol. Cymerodd 84% o ysgolion uwchradd yn yr Alban ran a rhestrwyd y rhain ar wefan, a oedd yn annog cymryd rhan.

Addysgir y pwnc Astudiaethau Modern yn yr Alban sy’n gymysgedd o’r cyfryngau a gwleidyddiaeth. Fodd bynnag, dosbarth dewisol ydyw, felly mae angen ystyried ym mha ddosbarthiadau eraill y gellir ymgymryd â gweithgarwch codi ymwybyddiaeth. Mae’r gweithgarwch yn fwy effeithiol os caiff ei gynnal yn y cyfnod yn union cyn yr etholiadau. Fodd bynnag, bydd hyn yn anochel yn ystod y cyfnod cyn arholiadau. Felly, caiff ysgolion eu hannog i gynnal y sesiynau ar adegau eraill a chanolbwyntio ar gofrestru.

Yn ystod etholiadau lleol 2017 yn yr Alban, roedd nifer y bobl ifanc 16 a 17 oed a bleidleisiodd yn is nag yr oedd yn ystod y refferendwm ac etholiadau Senedd yr Alban. Pleidleisiodd 51% yn y grŵp hwn, sef yr un ganran â phobl 18-25 oed.

Mae cymhelliad pobli ifanc dros bleidleisio yn wahanol i grwpiau oedran eraill. Mae pob grŵp oedran arall yn cyfeirio at ddyletswydd ddinesig fel eu prif gymhelliad dros bleidleisio. Mae pobl ifanc 16 a 17 oed yn dweud mai ‘mynegi barn’ neu ‘gwneud newid’ yw eu prif reswm dros bleidleisio. Maent yn ddwywaith yn fwy tebygol o roi’r rhesymau hyn na grwpiau hŷn.

Dywedodd RG y dylai ysgolion yng Nghymru gael eu hannog i ymgymryd â’r cynlluniau hyn ac awgrymodd fod modd cyflawni hyn o ystyried y cydberthnasau presennol â rhanddeiliaid perthnasol.

Dywedodd RT y bydd pwysau i gynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn ystod y canfasiad ond mae’r profiadau yn yr Alban yn codi cwestiynau ynglŷn â defnyddioldeb y canfasiad blynyddol o gymharu â chanfasiad bach yn y cyfnod cyn etholiad.

Mewn ymateb i gwestiwn am gofrestru awtomatig, dywedodd DC ei fod ar ddeall y byddai’n rhaid dweud wrth bobl ifanc 16 a 17 oed eu bod wedi cael eu cofrestru a rhoi cyfle iddynt ddod yn etholwyr anhysbys.

Dywedodd DC fod ganddo bryderon ynglŷn ag unrhyw gyfyngiadau a fyddai’n ei gwneud hi’n fwy anodd i bleidiau gwleidyddol siarad â phobl ifanc 16 a 17 oed. Roedd o’r farn y byddai gwleidyddion yn siarad yn uniongyrchol â phobl ifanc 16 a 17 oed ac yn gofyn am eu cefnogaeth yn cael mwy o effaith ar y niferoedd sy’n pleidleisio na rhoi gwersi am etholiadau yn gyffredinol yn yr ysgol.

Dywedodd SMac fod angen gwneud rhagor o waith o ran pobl ifanc mewn gofal. Yn yr Alban, aethant ati i weithio gyda sefydliadau a oedd yn gweithio gyda phobl ifanc yn y system gofal. Maent yn fwy tebygol o symud tŷ yn sydyn ac yn fynych ac mae rhai yn cael eu lleoli mewn ardal awdurdod lleol arall. Roedd y diffiniad o fod yn gymwys i fod yn ddirprwy yn y refferendwm yn eang ond mae’n fwy anodd cymhwyso i fod yn ddirprwy mewn argyfwng mewn etholiadau eraill. Mae pobl ifanc yn yr Alban sy’n cael problemau iechyd meddwl yn aml yn cael eu lleoli mewn llety yn Newcastle ac roedd amheuaeth ynglŷn â ph’un a allent gofrestru drwy gysylltiad lleol.

Aeth y Comisiwn ati i weithio gyda Sefydliad Teuluoedd y Fyddin i gysylltu â phlant pleidleiswyr sydd yn y lluoedd arfog. Roedd nifer o gatrodau o’r Alban a’u teuluoedd wedi’u lleoli yn Lloegr.

Gofynnodd GD pa ddogfennaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc 16 a 17 oed i gofrestru i bleidleisio.

Dywedodd SMac fod nifer fach o’r grŵp hwn heb gael eu rhif Yswiriant Gwladol a bod yr etholwyr hyn yn cael eu cadarnhau yn erbyn cofrestrau ysgol.

Holodd GD ynghylch sut mae cofrestru pobl ifanc 16 a 17 oed yn awtomatig yn gyson â chofrestru etholiadol unigol. Roedd hefyd yn pryderu am y posibilrwydd o wahaniaethau os oes dwy system a dwy gofrestr. Bydd pobl yn meddwl eu bod wedi’u cofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad os ydynt wedi pleidleisio mewn etholiad y llynedd, ond efallai nad ydynt ar y gofrestr Seneddol.

Dywedodd SMac fod teuluoedd a ffrindiau yn cael dylanwad cryf ar duedd pobl ifanc i bleidleisio. Dywedodd 95% o bobl ifanc 16 a 17 oed a bleidleisiodd fod eu rhieni wedi pleidleisio. O’r rhai hynny na wnaethant bleidleisio, dywedodd 50% fod eu rhieni wedi pleidleisio. Fodd bynnag, ymddengys nad yw rhieni yn dylanwadu ar y ffordd y mae pobl ifanc yn pleidleisio.

Mae pobl ifanc 16 a 17 oed yn fwy tebygol o anghytuno â’r datganiad ‘Fe ges i ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad hyddysg’ na grwpiau eraill. Dywedodd y rhai a ddywedodd eu bod wedi cael digon o wybodaeth eu bod wedi cael eu gwybodaeth drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae pobl ifanc yn llai tebygol o ddarllen taflenni ymgeiswyr a thaflenni’r Comisiwn Etholiadol. Mae’r Comisiwn yn paratoi pecyn gwybodaeth digidol y gellir ei ddefnyddio i dargedu pleidleiswyr ifanc. Sylw mewn rhaglenni teledu yw’r ysgogiad mwyaf o hyd o ran y niferoedd sy’n pleidleisio.

Dywedodd DC, yn sgil gostwng yr oedran pleidleisio i 18 oed yn 1970, ei fod wedi pleidleisio am y tro cyntaf yn 1974. Roedd yn meddwl tybed a oedd unrhyw ymchwil i’r ffordd roedd y profiad hwnnw wedi effeithio ar ymddygiad pleidleisio diweddarach y rhai a oedd yn 18 oed yn 1970-74.

Dywedodd SMar fod hwb tebyg i’r niferoedd sy’n pleidleisio pan gaiff pleidleisio electronig ei gyflwyno am y tro cyntaf.

Awgrymodd RT fod gwaith cynllunio cynnar yn allweddol ac y caiff hyn ei godi gyda Llywodraeth Cymru a BCEC ar gam cynnar.
Cam gweithredu: Bydd Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru (BCEC) yn trafod ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed a phrofiadau yn yr Alban.

Diweddariadau gan y Comisiwn

Diweddariad gan y Cadeirydd, Elan Closs Stephens

Dywedodd ECS fod nifer o gyfarfodydd ac ymadawiadau arwyddocaol wedi digwydd ers y cyfarfod blaenorol. Bydd un Comisiynydd cyffredinol newydd yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf a thri Chomisiynydd newydd sy’n cael eu henwebu gan y pleidiau gwleidyddol. Bydd cynrychiolydd yr SNP yn parhau gan nad yw wedi cwblhau ei gyfnod yn y swydd eto. Caiff Comisiynwyr newydd eu henwebu gan y Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur a chaiff trydydd Comisiynydd ei enwebu gan y pleidiau bach. Mae’r Comisiynwyr hyn yn cynnig profiad o ymgyrchu etholiadol a gwybodaeth ymarferol am etholiadau.
Ymchwiliadau yn ystod y flwyddyn diwethaf, Bob Posner 

Rhoddodd BP y wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliadau gan y Comisiwn. Bu nifer o ymchwiliadau mawr i roddion a gwariant yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf a bu nifer o ymchwiliadau proffil uchel i refferendwm yr UE a oedd yn cynnwys troseddau, dirwyon ac unigolion yn ymddangos gerbron y llys.

Caiff sefydliadau eu sefydlu at ddibenion ymgyrchu mewn refferenda nad oes ganddynt yr un seilwaith hirdymor nac enw da i’w ddiogelu fel pleidiau gwleidyddol. Bu cynnydd hefyd mewn ymgyrchu digidol ac nid oedd y rheolau etholiadol wedi cael eu llunio gyda hyn mewn cof, ond maent yn dal i fod yn gymwys. Bu pryder hefyd ynglŷn ag ymgyrchu cudd yn hytrach nag ymgyrchu agored.

Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi adroddiad ar ymgyrchu digidol y mis nesaf, gyda nifer o argymhellion. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd yn ystyried y mater hwn o ran diogelu data a chaiff ei hadroddiad ei gyhoeddi cyn hir. 
Y wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru

Esboniodd LW i gyfarfod diweddaraf BCEC gael ei gynnal ym mis Mai. Roedd y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Mark James, wedi rhoi’r diweddaraf am gynllun mentora a sefydlu Swyddogion Canlyniadau / Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Roedd pum Swyddog Canlyniadau / Swyddog Cofrestru Etholiadol newydd wedi dechrau ers i’r cynllun gael ei lansio ym mis Mawrth 2018. Mae mentor gan dri ohonynt eisoes, ac roedd y Comisiwn Etholiadol wedi cyfarfod ag un i drafod canllawiau’r Comisiwn a’r cymorth sydd ar gael. Roedd BCEC yn ystyried ymestyn y cynllun hwn i’r Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol y flwyddyn nesaf.

Lansiodd y Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg (GCDdG) y Rhestr Termau Etholiadol yn y cyfarfod. Roedd y Comisiwn Etholiadol, ar y cyd ag eraill, wedi creu cronfa ddata o dermau etholiadol a fydd yn adnodd defnyddiol i sicrhau cysondeb ledled Cymru a lleihau achosion o ddyblygu gwaith. Bydd GCDdG yn edrych ar ffurflenni pleidleiswyr nesaf, gan weithio gyda Swyddfa’r Cabinet.

Roedd y Llywydd, Elin Jones AC, wedi cael ei gwahodd i’r cyfarfod nesaf a oedd yn debygol o ganolbwyntio ar y diwygio etholiadol arfaethedig yng Nghymru.
Seminarau

Dywedodd RT fod y Comisiwn yn cynnal cyfres o seminarau ar ddemocratiaeth yng Nghymru eleni. Cynhaliwyd y seminar gyntaf ym mis Chwefror, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC, yn siarad am ddiwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol. Bydd yr ail seminar yn cael ei chynnal yn ystod yr Eisteddfod, a bydd yn canolbwyntio ar bobl ifanc mewn gwleidyddiaeth gyda’r Comisiynydd Elan Closs Stephens, y Llywydd Elin Jones AC a phanel o bobl ifanc. Caiff y drydedd seminar ei chynnal yn y gogledd ym mis Hydref. Bydd yn edrych ar gyfranogiad menywod yng ngwleidyddiaeth Cymru, i gyd-daro â chanmlwyddiant y bleidlais i ferched eleni.

Cam gweithredu: Dosbarthu manylion y seminarau sydd i ddod i aelodau BCEC er mwyn iddynt fod yn bresennol a helpu i hyrwyddo’r digwyddiadau.

Cyflwyno Canllawiau Modern

Esboniodd RC fod y Comisiwn bellach wedi penodi cyflenwr i ailddatblygu’r wefan gorfforaethol ac y bydd y prosiect moderneiddio canllawiau yn cael ei gyflawni fel rhan o’r gwaith hwn, gyda’r nod o gyhoeddi’r gyfres gyntaf o ganllawiau yn ystod gwanwyn 2019. Diolchodd RC i aelodau PPCC a oedd wedi cyfrannu at y drafodaeth hyd yma.
Yr hyn sy’n disodli CPRh Ar-lein

Dywedodd RC fod gwaith bellach wedi dechrau ar y prosiect i ddisodli CPRh Ar-lein ac y bydd Carol Sweetenham yn cysylltu er mwyn trefnu profion i ddefnyddwyr. Mae’r cyflenwr AuraQ wedi cynnig dangos y system yn un o gyfarfodydd PPCC yn y dyfodol. 

Ychwanegodd BP mai un mesur allweddol o lwyddiant ar gyfer y prosiect hwn yw a yw’r defnyddwyr yn ei hoffi, felly byddai mewnbwn ar y cam datblygu cynnar iawn hwn yn ddefnyddiol iawn.

Prosiect cynllun arsylwyr 

Esboniodd LW fod y Comisiwn wrthi’n adolygu ei gynllun statudol ar gyfer arsylwyr etholiadol. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn caniatáu i arsylwyr fod yn dyst i weithgarwch mewn gorsafoedd pleidleisio, sesiynau dosbarthu ac agor pleidleisiau post a’r cyfrif. Mae’r cynllun wedi bod yn weithredol ers 10 mlynedd a bydd y prosiect yn ystyried gwersi a ddysgwyd a chymariaethau rhyngwladol. Caiff ymgynghoriad ei gynnal dros yr haf a chaiff y pleidiau gwleidyddol eu gwahodd i ymateb.
Cynlluniau peilot adnabod pleidleiswyr – gwerthusiad

Dywedodd RC ei fod wedi dosbarthu manylion y cynlluniau peilot adnabod pleidleisiwr cyn yr etholiadau lleol yn Lloegr ym mis Mai. Bydd y Comisiwn yn gwerthuso’r cynlluniau peilot ac yn cyhoeddi adroddiad ar y canfyddiadau.
Adolygiad y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus – bygwth ymgeiswyr

Esboniodd RC fod y Comisiwn Etholiadol wedi cyflwyno tystiolaeth ym mis Medi 2017 i’r ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus ar fygwth ymgeiswyr seneddol. Argymhellodd adroddiad y Pwyllgor y dylai pleidiau gwleidyddol ddatblygu cod ymddygiad ar ymddygiad bygythiol yn ystod ymgyrchoedd etholiadol erbyn mis Rhagfyr 2018.

Dywedodd DC fod gan Blaid Lafur Cymru reolau cyffredinol ynglŷn ag ymddygiad a fyddai’n cydymffurfio â’r gofynion presennol.

Dywedodd GD fod yr adroddiad yn nodi y dylai’r cod gael ei orfodi ar y cyd gan y pleidiau gwleidyddol a bod hyn wedi cael ei gamddeall i ryw raddau, gan arwain at bryder y byddai’r pleidiau yn gorfodi ei gilydd.

Dywedodd RM fod gan blaid y Ceidwadwyr Cymreig system ar waith eisoes i ymdrin â materion o’r fath.

Dywedodd RC fod gan y prif bleidiau yng Nghymru system anffurfiol ar waith i ymdrin â chwynion yn ystod cyfnodau etholiadau ar hyn o bryd a bod hyn wedi gweithio’n dda.

Awgrymodd ECS y dylai pleidiau gwleidyddol dynnu sylw at y safonau a ddisgwylir gan aelodau cyn pob etholiad.

Awgrymodd GD y gallai pecynnau enwebu i ymgeiswyr gynnwys llythyr gan y Comisiwn yn nodi’r safonau y mae’r pleidiau wedi cytuno iddynt.
Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru 

Nododd RC fod Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar ei Phapur Gwyrdd – Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros Ein Pobl. Mae’r Comisiwn wedi ymateb i ddau gwestiwn yn yr ymgynghoriad a oedd yn ymwneud ag adolygiadau etholiadol a’r posibilrwydd y caiff etholiadau llywodraeth leol cael eu cynnal yn gynt, ym mis Mehefin 2021, gan nodi dryswch posibl i bleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadol, pleidiau ac ymgyrchwyr.

Diweddariad AEA Cymru

Dywedodd RG fod digwyddiad bord gron wedi cael ei gynnal gan AEA ym mis Mai gyda Phrif Weithredwr newydd AEA, Peter Stanyon a’r Dirprwy newydd, Laura Lock, yn bresennol. Roedd hyn yn galonogol, ac yn cydnabod y rhaglen diwygio etholiadol sylweddol yng Nghymru.

Mae gweinyddwyr etholiadol yn cymryd rhan yng ngweithdai Llywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol. Mae gweinyddwyr yn falch o nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ac ymgynghori â nhw wrth iddynt symud i’r cam drafftio Biliau.

Ymatebodd AEA Cymru i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadol a’r Papur Gwyrdd. Mae’n gwrthwynebu’n gryf yr awgrym y dylid symud dyddiad yr etholiadau lleol gan nad oes unrhyw fudd i etholwyr ond mae’n achosi risgiau i’r broses o weinyddu’r etholiadau.

Cyhoeddodd Peter Stanyon ei lythyr at y Gweinidog Chloe Smith AS yn sgil etholiadau lleol mis Mai 2018 yn Lloegr, a ailddatganodd argymhellion adroddiadau blaenorol AEA ac a dynnodd sylw at y camau gweithredu a gymerwyd gan weinyddwyr yn yr ardaloedd peilot adnabod pleidleiswyr.

 Dyddiadau cyfarfodydd i ddod yn 2018

Cam gweithredu: Y Comisiwn Etholiadol i ddosbarthu dyddiadau posibl ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol

Unrhyw fater arall

Ni chodwyd unrhyw fater arall

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Ionawr 2020
Adolygiad nesaf: 25 Tachwedd 2020