COFRESTRU I BLEIDLEISIO: 10 CWESTIWN MWYAF CYFFREDIN

Introduction


gan Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth Etholiadol a Chanllawiau

Rhan o'n swydd yma yn y Comisiwn Etholiadol yw helpu pobl i ddeall sut i gofrestru a sut i wneud eu pleidlais mewn etholiad. Mae'n hawdd cofrestru ac mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi bleidleisio yn yr etholiad sydd i ddod.

Dyma ddeg pwynt gall helpu pleidleiswyr ddeall yr opsiynau sydd ar gael iddynt yn Etholiad Cyffredinol 2019. 


Pwy all bleidleisio mewn etholiad cyffredinol yn y DU? 
Gallwch bleidleisio mewn etholiad cyffredinol yn y DU os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn, a:
•    Dinesydd o'r DU neu Iwerddon
•    Dinesydd cymwys y Gymanwlad yn byw yn y DU 
Mae angen i chi fod ar y gofrestr etholiadol cyn y byddwch yn gallu pleidleisio.

A yw'n cymryd yn hir i gofrestru? 
Mae cofrestru i bleidleisio ar-lein yn gyflym ac yn hawdd, ac mae'n bosib i chi wneud arlein.  Dim ond pum munud y mae'n ei gymryd, a'r cyfan sydd ei angen yw eich cyfeiriad, eich dyddiad geni a'ch rhif yswiriant gwladol. 

Cofrestrwch i bleidleisio yma.  Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol yw 26 Tachwedd 2019. 

Sut rydych yn gwirio os ydych wedi cofrestru i bleidleisio?

I wirio a ydych wedi cofrestru i bleidleisio, bydd angen i chi gysylltu â'r tîm cofrestru etholiadol yn eich awdurdod lleol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich awdurdod lleol yma  drwy roi eich cod post yn y blwch.  


Sut alla i fwrw fy mhleidlais mewn etholiad cyffredinol? 
Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio, gallwch fwrw'ch pleidlais yn eich gorsaf bleidleisio leol ar 12 Rhagfyr (rhwng 7am a 10pm). Byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio cyn diwrnod y bleidlais yn dweud wrthych ble mae eich gorsaf bleidleisio. Fel arall, fe allech chi wneud cais am bleidlais drwy'r post  neu ddirprwy

Beth yw'r rheolau a'r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais post? 

Mae pleidleisio drwy'r post yn ffordd hawdd a chyfleus o bleidleisio os nad ydych yn gallu mynd i'r orsaf bleidleisio. Cewch fwy o wybodaeth am bleidleisio post yma.

Gall unrhyw un yng Nghymru, Lloegr a'r Alban wneud cais am bleidlais bost. Nid oes angen i chi ddarparu rheswm, oni bai eich bod yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon. 

Gallwch ddod o hyd i'r ffurflen  i gofrestru ar gyfer pleidlais bost ym Mhrydain Fawr yma. 

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen a sicrhau eich bod wedi ei llofnodi, mae angen i chi ei hanfon at y tîm cofrestru etholiadol yn eich cyngor lleol. Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt yma drwy roi eich cod post isod. 

Gallwch anfon  eich ffurflen drwy'r post.  Dylai'r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol allu derbyn copi wedi'i sganio o'ch ffurflen trwy e-bost, ond dylech wirio gyda nhw yn gyntaf rhag ofn. Gellir dod o hyd i fanylion ar gyfer gwneud cais yng Ngogledd Iwerddon yma. 

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais post yw 5pm ar 26 Tachwedd ym Mhrydain Fawr, a 5pm ar 21 Tachwedd yng Ngogledd Iwerddon. 


Beth yw'r rheolau a'r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy? 

Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn golygu os nad ydych yn gallu bwrw'ch pleidlais yn bersonol, gallwch apwyntio rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan. Rhaid iddyn nhw fynd i'ch gorsaf bleidleisio i fwrw'ch pleidlais, neu gallen nhw wneud cais i bleidleisio ar eich rhan trwy'r post.

I wneud cais am bleidlais ddirprwy, mae'n rhaid i chi lenwi ffurflen a rhoi rheswm pam na allwch gyrraedd eich gorsaf bleidleisio yn bersonol. Gall hyn fod oherwydd eich bod yn mynd i fod ar wyliau, neu fod â chyflwr corfforol sy'n golygu na allwch gyrraedd eich gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod pleidleisio. Dewch o hyd i mwy o wybodaeth a lawrlwythwch y ffurflen ar gyfer pleidlais ddirprwy yma.

Gall unrhyw un fod yn ddirprwy cyn belled a'u bod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad a'u bod yn fodlon pleidleisio ar eich rhan. Ni all eich ddirprwy fod yn ddirprwy ar gyfer mwy na dau o bobl mewn unrhyw un etholiad neu refferendwm, heblaw eu bod yn berthynas agos. 

Mae'r rheolau a'r ffurflenni ar gyfer cymhwyso yng Ngogledd Iwerddon ychydig yn wahanol ac maent ar gael yma. 

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, mae angen i chi ei hanfon at y tîm cofrestru etholiadol yn eich cyngor lleol. Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt yma drwy roi eich cod post isod. 

Gallwch anfon  eich ffurflen drwy'r post. Dylai'r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol allu derbyn copi wedi'i sganio o'ch ffurflen trwy e-bost, ond dylech wirio gyda nhw yn gyntaf rhag ofn.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar 4 Rhagfyr ym Mhrydain Fawr, a 5pm ar 21 Tachwedd yng Ngogledd Iwerddon. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dirprwy bost yw 5pm ar 26 Tachwedd. 

A yw pleidleiswyr, fel myfyrwyr, yn medru cofrestru mewn mwy nag un cyfeiriad?  

Mae'n bosibl mewn rhai amgylchiadau i rywun gael ei gofrestru'n gyfreithlon i bleidleisio mewn mwy nag un cyfeiriad. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, myfyrwyr sydd â chyfeiriadau amser cartref a thymor gwahanol.

Rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn eich cyngor lleol fod yn fodlon eich bod yn preswylio mewn cyfeiriad cyn cadarnhau eich cofrestriad yno. 

Fodd bynnag, mae'n drosedd bwrw mwy nag un bleidlais ar eich rhan eich hun mewn etholiad cyffredinol Seneddol yn y DU. Mae gan y drosedd hon gosb o ddirwy ddiderfyn yng Nghymru a Lloegr, neu ddirwy o hyd at £5,000 yn yr Alban. 


Beth os ydw i'n symud tŷ? 

Pan rydych yn symud cartref mae'n rhaid i chi gofrestru yn eich cyfeiriad newydd. Os yw'ch dyddiad symud rhwng y dyddiad cau ar gyfer cofrestru a'r diwrnod pleidleisio, byddwch yn dal i allu pleidleisio yn eich hen gyfeiriad. Os na allwch ddychwelyd, gallwch wneud cais i bleidleisio trwy'r post a chael eich pleidlais bost wedi'i hanfon i'ch cyfeiriad newydd, neu gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy.

Beth os ydw i'n byw dramor? 

Os ydych yn ddinesydd y DU yn byw tramor, gallwch wneud cais i fod yn bleidleisiwr tramor.

Mae'n rhaid eich bod wedi bod yn byw yn y DU o fewn y 15 mlynedd diwethaf ac wedi'ch cofrestru i bleidleisio cyn i chi adael y DU.

Os oeddech yn rhy ifanc i gofrestru pan wnaethoch adael y DU, gallwch gofrestru fel pleidleisiwr tramor. Gallwch wneud hyn os oeddech chi'n byw ddiwethaf yn y DU o fewn y 15 mlynedd diwethaf a bod eich rhiant neu warcheidwad wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU.

Os oeddech chi'n preswylio ym Mhrydain Fawr o'r blaen, gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein.  

Mae mwy o wybodaeth i bleidleiswyr tramor sydd am bleidleisio trwy'r post, dirprwy neu menw person i'w gweld yma.  

Beth os nad oes gennyf gyfeiriad sefydlog? 
Gallwch gofrestru i bleidleisio hyd yn oed os nad oes gennych gyfeiriad penodol. Mae yna nifer o opsiynau yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mwy o wybodaeth yma.