Comisiwn Etholiadol yn dynodi 'Vote Leave Ltd' a 'The In Campaign Ltd' fel prif ymgyrchwyr yn Refferendwm yr UE.
Diweddariad ar y refferendwm
Heddiw, mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dynodi'r ddau brif ymgyrchydd yn Refferendwm yr UE - gan ddynodi 'The In Campaign Ltd' i fod yn brif ymgyrchydd ar gyfer canlyniad "Aros" a 'Vote Leave Ltd' ar gyfer y canlyniad "Gadael".
Mae papurau o ran penderfyniad y Comisiwn Etholiadol a chopïau o'r ceisiadau a wnaed gan bob sefydliad, ynghyd â gwybodaeth gefnogol, ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol yma. Mae strategaethau ymgyrchu a data personol ymgeiswyr wedi eu golygu o'r papurau hyn.
Gan esbonio ei benderfyniad i ddynodi 'Vote Leave Ltd' o flaen y ddau gais arall ar ochr 'Gadael', dywedodd Claire Bassett, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol:
Ble mae mwy nag un ymgeisydd addas ar gyfer canlyniad, mae'r gyfraith yn glir, mae'n rhaid i ni ddynodi pa bynnag un o'r ymgeiswyr sy'n ymddangos i ni i gynrychioli'r rheiny sy'n ymgyrchu dros y canlyniad hwnnw orau.
Derbyniom ddau gais o safon uchel ar yr ochr 'Gadael' gan 'Vote Leave Ltd' a 'the Go Movement Ltd'. Wedi ystyriaeth ofalus, penderfynodd y Comisiwn bod 'Vote Leave Ltd' wedi arddangos yn well bod ganddo strwythurau yn eu lle i sicrhau bo barn ymgyrchwyr eraill yn cael eu cynrychioli wrth gyflawni ei ymgyrch. Mae felly yn cynrychioli'r rheiny sy'n ymgyrchu ar gyfer y canlyniad 'Gadael yn fwy na 'Go Movement Ltd', sef y prawf sy'n rhaid i ni ei ddefnyddio.
Ry'n ni am annog ymgyrchwyr nawr i ganolbwyntio ar ymgysylltu pleidleiswyr ar y penderfyniad hanesyddol y byddant yn ei wneud ar 23 Mehefin.
Cefndir i benderfyniad y Comisiwn
Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd 2016) yn gofyn bod y Comisiwn yn ystyried prawf statudol wrth asesu ceisiadau ar gyfer dynodi. Y prawf yw:
- os mai dim ond un ymgeisydd ar gyfer canlyniad sydd, bydd y Comisiwn yn dynodi'r ymgeisydd hwnnw, heblaw nad yw'n fodlon ei fod yn cynrychioli'r rheiny sy'n ymgyrchu dros y canlyniad hwnnw yn ddigonol, neu
- os oes mwy nag un ymgeisydd ar gyfer canlyniad, bydd y Comisiwn yn dynodi pa bynnag un o'r ymgeiswyr sy'n ymddangos i'r Comisiwn i gynrychioli'r rheiny sy'n ymgyrchu dros y canlyniad hwn orau, heblaw nad yw'n fodlon nad oes un o'r ymgeiswyr yn cynrychioli'r rheiny sy'n ymgyrchu dros y canlyniad hwnnw yn ddigonol.
Dim ond un ymgeisydd oedd ar gyfer dynodi fel prif ymgyrchydd y canlyniad 'Aros', 'The In Campaign Ltd' a phenderfynodd y Comisiwn ei fod yn cynrychioli'r rheiny sy'n ymgyrchu dros y canlyniad hwn yn ddigonol.
Roedd tri ymgeisydd ar gyfer dynodi fel prif ymgyrchydd canlyniad 'Gadael'. Nid oedd y cais gan Trade Unionist and Socialist Coalition yn arddangos ei fod yn cynrychioli'r ymgyrchwyr eraill yn ddigonol.
Ystyriwyd bod y ddau ymgeisydd arall, gan 'Vote Leave Ltd' a 'The Go Movement Ltd' yn cynrychioli'r ymgyrchwyr eraill yn ddigonol. Roedd gofyn felly bod y Comisiwn yn penderfynu pa un o'r ddau ymgeisydd fyddai yn cynrychioli'r ymgyrchwyr eraill ar ochr 'Leave' fwyaf.
Er bod y ddau ymgeisydd o safon uchel, ystyriodd y Comisiwn yn benodol:
- Roedd y ddau ymgyrch yn arddangos cefnogaeth gan nifer o grwpiau yn cynrychioli gwahanol fuddion. Fodd bynnag, arddangosodd 'Vote Leave Ltd' yn well ddyfnder cynrychiolaeth eu cefnogaeth gan y rheiny sy'n ymgyrchu, gan gynnwys ar lefel rhanbarthol a lleol.
- Fe wnaeth 'Vote Leave Ltd' hefyd ddarparu cynlluniau a strwythurau wedi'u datblygu'n dda ar gyfer sut y byddent yn cefnogi sefydliadau eraill sy'n ymgyrchu. Nid yw eu cynnig o gefnogaeth yn amodol ar sefydliadu yn cytuno i ddanfon negeseuon neu weithgarwch ar eu rhan, ac mae fforwm wedi ei sefydlu ('Contact Group') gyda'r bwriad penodol o ganiatáu cyfnewid safbwyntiau rhwng ymgyrchwyr. I'r gwrthwyneb, mae'r ymdriniaeth gan 'Go Movement Ltd' yn seiliedig ar ymgyrchwyr eraill yn llofnodi cytundebau ffurfiol fel 'cwmnïau cysylltiedig' ond nid oes mecanwaith sefydledig ar gyfer cefnogi ymgyrchwyr nad ydynt am lofnodi'r rhain.
Er mwyn bod yn brif ymgyrchydd dynodedig, roedd yn rhaid i ymgyrchwyr gyflwyno cais i'r Comisiwn Etholiadol i'w helpu i ddefnyddio'r prawf statudol yn esbonio:
- amcanion yr ymgeisydd a sut maent yn ffitio gyda'r canlyniad refferendwm y mae'n cefnogi
- lefel a math y gefnogaeth ar gyfer y cais
- sut mae'r ymgeisydd yn bwriadu cynrychioli ymgyrchwyr eraill ar gyfer yr un canlyniad, gan gynnw
- sut y byddai'n ymgysylltu â nhw
- gallu sefydliadol yr ymgeisydd i gynrychioli'r rheiny sy'n ymgyrchu dros y canlyniad hwnnw, a
- gallu'r ymgeisydd i ddarparu eu hymgyrch
Beth mae dynodi yn golygu
Bydd gan y ddau brif ymgyrch fynediad at fuddion penodol a osodir yn gyfreithlon yn ystod 'cyfnod refferendwm' a reoleiddir, sy'n cychwyn ar 15 Ebrill. Buddion bod yn brif ymgyrchydd:
- Terfyn gwario uwch o £7miliwn
- Un dosbarthiad gwybodaeth am ddim i bleidleiswyr
- Defnydd o rai ystafelloedd cyhoeddus
- Darllediadau ymgyrchu refferendwm
- Grant o hyd at £600,000 i'w ddefnyddio ar gyfer peth gwariant, gan gynnwys costau gweinyddu sy'n gysylltiedig gyda gosod a rhedeg ymgyrch refferendwm a'r costau sy'n gysylltiedig â'r darllediadau ar y teledu a phostiadau am ddim i bleidleiswyr y mae ganddynt hawl iddynt fel prif ymgyrchwyr
Yn ychwanegol at y buddion statudol yma, gall prif ymgyrchwyr gael:
- Tudalen yn llyfryn gwybodaeth y Comisiwn fydd yn cael ei ddosbarthu at bob cartref yn y DU (yn ddwyieithog yng Nghymru ac yn Saesneg yng ngweddill y DU)
- Cynnwys dolen yn y llyfryn i dudalen ar wefan yr ymgyrchydd, ddylai gynnwys eu barn ar beth fydd yn digwydd yn achos y naill ganlyniad refferendwm neu'r llall
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa'r Cyfryngau y Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol a grëwyd gan Senedd y DU. Ein hamcan yw hygrededd a hyder y cyhoedd ym mhroses ddemocrataidd y DU. Rydym yn rheoleiddio cyllid pleidiau ac etholiadau ac yn gosod safonau ar gyfer etholiadau a gynhelir yn dda.
- Mae gan y Comisiwn Etholiadol gyfrifoldebau a swyddogaethau penodol mewn perthynas â darparu a rheoleiddio refferenda a gynhelir yn unol â PPERA, sy'n berthnasol i unrhyw Fil refferendwm sy'n dod o flaen Senedd y DU, heblaw y nodir yn benodol fel arall. Am fwy o wybodaeth gweler ein gwefan.
- Mae Britain Stronger in Europe wedi cofrestru fel 'The In Campaign Ltd' ac felly y cyfeirir atynt trwy gydol y matricsau asesu a dogfennau'r Bwrdd a gyhoeddir gan y Comisiwn.
- Roedd un ymgeisydd ar gyfer canlyniad "Aros" a thri ar gyfer "Gadael".
- Mae'r terfynau gwario ymgyrch y refferendwm a'r rheolau yn berthnasol o 15 Ebrill 2016 nes, a chan gynnwys 23 Mehefin, diwrnod y refferendwm.
- Mae rhai o'r dogfennau a gyhoeddwyd heddiw wedi eu golygu i dynnu un ai cyngor cyfreithiol neu ddata personol. Gwnaeth y Comisiwn hefyd wneud cais am wybodaeth o ran strategaeth ymgyrchu pob un o'r ymgeiswyr fel rhan o'r broses ddynodi, ac mae hyn wedi ei olygu yn unol ag ymrwymiadau a wnaed gan y Comisiwn wrth ofyn am y wybodaeth hon.
- Mae papurau canlynol o ran penderfyniad y Comisiwn Etholiadol a chopïau o'r ceisiadau a wnaed gan bob sefydliad, ynghyd â gwybodaeth gefnogol, ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol yma:
Papurau'r Comisiwn
- Papur Bwrdd y Comisiwn, gan gynnwys matricsau asesu
- Cofnod Bwrdd y Comisiwn
- Matrics crynodeb sgorio
The In Campaign Ltd
- Cais dynodi The In Campaign Ltd
Go Movement Ltd
- Llythyr cyflwyno cais dynodi Go Movement Ltd
- Cais dynodi Go Movement Ltd
- Cais Go Movement Ltd Atodiad 01 Data Dogfennau Cyfreithiol
- Atodiadau 02 i 06, sy'n cynnwys clipiau newyddion, fydd ar gael i'w hadolygu gan y Bwrdd yn swyddfa Llundain y Comisiwn yn y dyddiau cyn cyfarfod y Bwrdd
- Cais dynodi Go Movement Ltd - E-byst cefnogi (cyflwynwyd 13 blwch o'r ddau e-bost templed hyn yn cefnogi gyda'r cais)
Trade Unionist and Socialist Coalition
- Cais dynodi Trade Unionist and Socialist Coalition
Vote Leave Ltd
- Llythyr cyflwyno cais dynodi Vote Leave Ltd
- Cais dynodi Vote Leave Ltd
- Cais dynodi Vote Leave Ltd - Atodiad A1
- Cais dynodi Vote Leave Ltd - Atodiad A2
- Cais dynodi Vote Leave Ltd - Atodiad A3
- Cais dynodi Vote Leave Ltd - Atodiad A4
- Cais dynodi Vote Leave Ltd - Atodiad B1
- Cais dynodi Vote Leave Ltd - Atodiad B2
- Cais dynodi Vote Leave Ltd - Atodiad B3
- Cais dynodi Vote Leave Ltd - Atodiad B4
- Cais dynodi Vote Leave Ltd - Atodiad B5
- Cais dynodi Vote Leave Ltd - Atodiad B6
- Cais dynodi Vote Leave Ltd - Atodiad C1
- Cais dynodi Vote Leave Ltd - Atodiad D
Tystiolaeth bellach a gyflwynwyd gan ymgeiswyr:
GO Movement Ltd
- Cais am fwy o dystiolaeth - GO Movement Ltd
- GO Movement Ltd – Tystiolaeth bellach: Llythyr Cyflwyno
- GO Movement Ltd – Tystiolaeth bellach: Cylch Gorchwyl ar gyfer Bwrdd GO Movement Ltd Board
- GO Movement Ltd - Tystiolaeth bellach: Cylch Gorchwyl Pwyllgor Gwleidyddol a Strategaeth
- GO Movement Ltd – Tystiolaeth bellach: Cytundeb Cydweithio 250216
- GO Movement Ltd – Tystiolaeth bellach: Datganiad
- GO Movement Ltd – Tystiolaeth bellach: Cytundeb Contractio Allanol 160316
Vote Leave Ltd
- Cais am fwy o dystiolaeth - Vote Leave Ltd
- Vote Leave Ltd - Tystiolaeth bellach