Cyfreithiwr
Apply now
Summary
Cyfarwyddiaeth: Datganoli, Llywodraethu, a'r Gyfraith
Cytundeb: Parhaol / Llawn Amser neu Ran Amser
Cyflog: Cyflog Llundain: £62,906 / Tu Allan i Lundain: £60,711
Lleoliad: Llundain, Caerdydd, Belfast neu Gaeredin
Job info
Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb. Mae’r Comisiwn yn uniongyrchol atebol i’r Senedd, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am o leiaf un Cyfreithiwr llawn amser neu ran amser i ymuno â Thîm Cyfreithiol y Comisiwn.
Fel corff statudol, mae’r Comisiwn yn dibynnu ar ei Dîm Cyfreithiol am gyngor cyfreithiol o ansawdd uchel i hybu ei amcanion a sicrhau ei fod yn arfer ei swyddogaethau’n gyfreithlon. Arweinir y tîm gan Gwnsler Cyffredinol y Comisiwn, a gefnogir ar hyn o bryd gan y Pennaeth Cyfreithiol, dau Uwch Gyfreithiwr, pum Cyfreithiwr a Swyddog Cyfreithiol.
Bydd y rôl yn cynnwys:
- cynghori ar gyfraith etholiadol gan gynnwys yn ystod digwyddiadau gwleidyddol mawr megis Etholiadau
- Cyffredinol Senedd y DU, etholiadau lleol, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, etholiadau maerol, refferenda, ac etholiadau ar gyfer y seneddau datganoledig.
- cynghori ar benderfyniadau rheoleiddio a chamau gorfodi sy'n effeithio ar bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr
gweithio ar ddeddfwriaeth arfaethedig a rhoi deddfwriaeth newydd ar waith, a - chynghori ar rwymedigaethau cyfreithiol ehangach y Comisiwn fel corff cyhoeddus mewn perthynas â chyfraith gwybodaeth, caffael, contractau, a materion cyflogaeth.
Gan fod y Comisiwn yn gweithredu mewn maes arbenigol, nid ydym yn gofyn nac yn disgwyl i ymgeiswyr feddu ar brofiad o gyfraith etholiadol, ond bydd profiad cyffredinol o waith cynghori, dehongli statudol a chyfraith gyhoeddus a gweinyddol i gyd yn hanfodol. Byddwch yn cael eich cefnogi gan un o'r Uwch Gyfreithwyr ac yn derbyn hyfforddiant yn y rôl.
Mae'r Comisiwn yn gweithredu system o weithio hyblyg a hybrid ac mae ganddo swyddfeydd yn Llundain, Caeredin, Caerdydd a Belfast. Er bod y rhan fwyaf o'r tîm wedi'u lleoli yn Llundain, byddai'n bosibl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflawni'r rôl hon o unrhyw un o swyddfeydd y Comisiwn a byddem yn croesawu ceisiadau gan gyfreithwyr â chymwysterau deuol sy'n gallu ymarfer yn yr Alban yn ogystal â Lloegr & Cymru.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r Comisiwn. Mae ein gwaith yn uchel ei broffil ac yn amrywiol o ran diwygio etholiadol, rheoleiddio pleidiau ac ymgeiswyr, a datganoli, sydd i gyd yn bynciau llosg ar draws y DU gyfan. Mae'r gwaith yn ddiddorol, yn heriol yn ddeallusol ac yn amrywiol.
Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei staff a chreu amgylchedd cynhwysol ar gyfer pob gweithiwr. Penderfynir ar bob cyflogaeth ar sail cystadleuaeth agored a theg, teilyngdod ac anghenion busnes.
I wneud cais, anfonwch e-bost atom â CV dienw a datganiad ategol sy'n esbonio'n glir sut rydych yn bodloni'r meini prawf a amlinellir ym manyleb y swydd.