Cyhoeddi cofnodion gwariant Etholiad Cyffredinol Senedd y DU ar gyfer pleidiau mwy o faint
Ffeithiau a ffigurau
Adroddodd saith o bleidiau gwleidyddol a dau o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gyfanswm o ychydig yn llai na £40 miliwn yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017, fel y dangosir yn y ffigyrau newydd a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol.
Roedd gofyn cyfreithiol bod pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau wariodd dros £250,000 yn ystod y cyhoedd a reoleiddir ar gyfer yr etholiad cyffredinol - oedd rhwng dydd iau 9 Mehefin 2016 a'r diwrnod pleidleisio, ddydd Iau 8 Mehefin 2017 - yn cyflwyno cofnodion gwariant wedi'u harchwilio i'r Comisiwn erbyn 8 Rhagfyr 2017.
Y pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr adroddodd wario mwy na £250,000:
Enw'r blaid | Gwariant |
---|---|
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (GB) | £18,565,102 |
Y Blaid Lafur | £11,003,980 |
Democratiaid Rhyddfrydol | £6,788,316 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £1,623,127 |
Y Blaid Werdd | £299,352 |
Women's Equality Party | £285,662 |
Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) | £273,104 |
Y ddau ymgyrchydd nad ydynt yn bleidiau adroddodd wario mwy na £250,000:
Enw ymgyrchydd nad yw'n blaid | Gwariant |
---|---|
UK-EU Open Policy Limited (Best for Britain) | £353,118 |
National Union of Teachers | £326,306 |
Wrth baratoi'r cofnodion gwariant i'w cyhoeddi, roedd angen i'r Comisiwn fod mewn cyswllt gyda nifer o bleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau i gael mwy o wybodaeth i sicrhau pan eu bod yn cyhoeddi, bod eu cofnodion gwariant yn cydymffurfio gyda'r gofynion cyfreithiol gymaint â phosibl. Mae'r Comisiwn wedi gorfod agor ymchwiliadau mewn rhai achosion i benderfynu cydymffurfiaeth gyda gofynion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda (PPERA) 2000 pan gafodd y cofnodion eu cyflwyno'n wreiddiol. Bydd yr ymchwiliadau yn edrych p'un a bod rheolau PPERA wedi'u torri ai peidio, ac os oeddent, byddai cosbau priodol yn cael eu rhoi.
Manylion camau gorfodi pleidiau gwleidyddol
- Mae'r Blaid Geidwadol, y Blaid Werdd a'r Blaid Lafur yn cael eu hymchwilio am gyflwyno cofnodion gwariant oedd heb rhai anfonebau ac am gyflwyno datganiadau o daliadau a wnaed oedd o bosib yn wallus.
- Mae'r Blaid Geidwadol a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu hymchwilio am wneud nifer o daliadau i gyflenwyr lle bod yr hawliad am daliad wedi'i dderbyn ar ôl y dyddiad cau o 30 diwrnod neu ei fod wedi ei dalu ar ôl y dyddiad cau o 60 diwrnod ar ôl yr etholiad. Mae'r dyddiad cau hwn wedi ei nodi mewn cyfraith.
- Mae'r Women’s Equality Party yn cael eu hymchwilio am gyflwyno cofnod gwariant nad oedd yn gyson â'r adroddiadau rhoddion ar gyfer yr un cyfnod.
Manylion camau gorfodi ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
- Mae Best for Britain yn cael eu hymchwilio am gyflwyno cofnod gwariant oedd ag anfonebau ar goll. Mae'r ymgyrchydd yn cael ei ymchwilio hefyd am beidio â dychwelyd £25,000 o rodd gan roddwr nas caniateir o fewn 30 diwrnod fel sy'n ofynnol gan PPERA.
- Mae National Union for Teachers yn cael eu hymchwilio am gyflwyno cofnod gwariant oedd ag un anfoneb ar goll.
Dywedodd Bob Posner, Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio a Chwnsler Cyfreithiol y Comisiwn Etholiadol:
Mae hi'n hanfodol bod pleidleiswyr yn cael cyfle i weld data adroddadwy llawn a chywir ar beth mae pleidiau ac ymgyrchwyr yn gwario eu harian er mwyn dylanwadu arnynt yn etholiad cyffredinol Senedd y DU y llynedd. Mae hyn yn rhoi tryloywder i'r system gyllid wleidyddol ac mae ar gael i unrhyw un graffu arno.
Ry'n ni'n ymchwilio i achosion posib o dorri'r rheolau. Fodd bynnag mae ein trafodaethau gyda'r pleidiau mawr yn nodi efallai bod angen i ni ystyried gwytnwch eu llywodraethiant mewnol ac adnoddau i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni beth sy'n ofynnol gan y gyfraith.
O ystyried cyhoeddiad y Comisiwn ym mis Tachwedd o bleidiau gwleidyddol ac ymgychwyr nad ydynt yn bleidiau wariodd llai na £250,000, mae rhyddhau'r wybodaeth heddiw yn golygu bod cyfanswm gwariant o £41,587,450 gan gyfanswm o 75 plaid ac 18 o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. O'i gymharu, yn Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2015, adroddwyd gwariant o £39,023,564 gan 57 o bleidiau a 23 o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Yn ogystal â'r gwariant cyffredinol, mae pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn dynodi gwariant yn erbyn un o naw categori. Mae manylion fesul categori, yn ogystal â chopïau o anfonebau unigol a derbynebau ar gael ar wefan y Comisiwn yma.
Mae'r ymchwiliadau sydd wedi'u hagor yn unol â Pholisi Gorfodi'r Comisiwn. Rydym yn cyhoeddi manylion cosbau yn fisol. Mae'r amser a gymerir i gwblhau ymchwiliad yn amrywio o achos i achos.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau y Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa:07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Mae'n gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Cyflwynodd Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda (2000) reoliadau ar wariant ymgyrchu gan bleidiau gwleidyddol sy'n brwydro etholiadau Senedd y DU. Roedd gofyn i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau wariodd £250,000 neu lai i gyflwyno eu cofnodion erbyn 8 Medi 2017. Mae'n rhaid i bleidiau sy'n gwario mwy na £250,000 anfon adroddiad i'r Comisiwn o fewn chwe mis o'r etholiad.
- Mae gofyn i unrhyw blaid wleidyddol frwydrodd yn yr etholiad i gyflwyno cofnod gwariant ymgyrchu i'r Comisiwn. Nid yw gwariant adroddid ar gyfer pleidiau yn cynnwys rhai costau (e.e. staffio) ac adroddir gwariant ymgeiswyr ar wahân.
- Mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gofrestru gyda'r Comisiwn cyn iddynt allu gwario mwy na £20,000 ar ymgyrchu yn Lloegr neu mwy na £10,000 ar ymgyrchu yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac mae gofyn iddynt gyflwyno cofnod gwariant os wnaethant ymgyrchu a gwario dros y symiau hyn yn etholiad cyffredinol Senedd y DU.
- Mae ffigyrau yn y datganiad yma wedi eu talgrynnu i'r £ agosaf.
- Nid yw'r gwariant canlynol yn cyfri fel gwariant ymgyrchu ar gyfer pleidiau, ac felly nid oes angen ei adrodd:
- Staff parhaol, tymor penodol neu dros dro lle mae gan yr aelod o staff gontract cyflog uniongyrchol â'r blaid
- Amser gwirfoddolwyr
- Costau cynnal swyddfa
- Costau teithio, bwyd a llety wrth i bobl ymgyrchu, heblaw eich bod yn eu had-dalu
- Treuliau o gronfeydd cyhoeddus. Er enghraifft, costau diogelwch ar gyfer ymweliadau VIP
- Unrhyw beth y mae ymgeisydd yn datgan ar eu cofnod gwariant
- Ar gyfer pleidiau gwleidyddol sy'n brwydro seddi yn etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr, y swm gall plaid wario yw'r mwyaf o:
Un ai:
Rhan o Brydain Fawr | Terfyn gwario |
---|---|
Lloegr | £810,000 |
Yr Alban | £120,000 |
Cymru | £60,000 |
Neu:
£30,000 x y nifer o seddi y mae'r blaid yn brwydro ynddynt ym mhob rhan o Brydain Fawr. Mae gan bob rhan o Brydain Fawr derfyn gwahanol yn seiliedig ar y nifer o seddi y mae'r blaid yn brwydro ym mhob ardal.
Rhan o Brydain Fawr | Cyfanswm nifer o seddau y gellid eu brwydro |
---|---|
Lloegr | 533 |
Yr Alban | 59 |
Cymru | 40 |
Os gwnaeth plaid frwydro'r nifer fwyaf o seddi yn ei enw ei hun yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, y terfynau fyddai £1,200,000 (40 x £30,000) yng Nghymru, £15,990,000 yn Lloegr (533 x £30,000) a £1,770,000 yn yr Alban (59 x £30,000). Cyfanswm o £18,960,000.