Cyhoeddi cost darparu Refferendwm yr UE 2016
Costio gwybodaeth
Mae cost darparu refferendwm 2016 ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys manylion pob un o'r 382 o ardaloedd cyfrif ledled y DU a Gibraltar, wedi ei gyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol.
Cost darparu refferendwm 2016 oedd £129.1 miliwn. Mae'r ffigwr hwn yn cynnwys:
- Cost gweinyddu'r bleidlais - gan gynnwys rhedeg dros 40,000 o orsafoedd pleidleisio, rhoi ac agor pleidleisiau post, a chyfrif y pleidleisiau - cyfanswm o £94.5 miliwn.
- Grantiau statudol i'r ddau brif ymgyrchydd dynodedig, cyfanswm o £1.2 miliwn.
- Costau danfon ar gyfer y ddau brif ymgyrchydd iddynt anfon postiad i bob etholwr neu gartref ym mhob ardal refferendwm ledled y DU, fel sydd wedi nodi mewn cyfraith. Roedd hyn yn gyfanswm o bron i £25.4 miliwn.
- Cost ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd ledled y DU gan y Comisiwn Etholiadol i godi ymwybyddiaeth o'r bleidlais a darparu gwybodaeth ar sut i gymryd rhan, cyfanswm o £6 miliwn.
Mae cyfanswm yr holl hawliadau cost gan Swyddogion Cyfrif ledled y DU wedi ein galluogi i gasglu a chadarnhau costau darparu'r refferendwm.
Mae'r adroddiad, sydd bellach ar gael ar ein gwefan, yn cynnwys manylion costau sy'n gysylltiedig â darparu'r refferendwm. Mae hyn yn cynnwys data ar gyfer costau pob un o'r Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
-
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Roedd dyraniad cyllido ar gyfer Refferendwm yr UE yn dilyn y fframwaith presennol ar gyfer cyllido etholiadau a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU. Yn unol â'r fframwaith yma, cyfrifodd Swyddfa'r Cabinet Swm Adferadwy Mwyaf ar gyfer pob Swyddog Cyfrif a Swyddog Cyfrif Rhanbarthol, y gallent ddyrannu adnoddau eu hunain, cyn belled â bod y symiau a wariwyd yn hanfodol ar gyfer cynnal refferendwm effeithiol ac effeithlon.
- Fe wnaeth y Prif Swyddog Cyfrif benodi un ar ddeg o Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol ar gyfer pob un o'r rhanbarthau etholiadol ym Mhrydain Fawr. Roedd y Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol yn gyfrifol am gydlynu cynllunio a gweinyddu'r bleidlais yn eu rhanbarth etholiadol a rheoli casglu'r cyfansymiau lleol i gyfanswm ar gyfer y rhanbarth etholiadol. Roedd Swyddogion Cyfrif yn gyfrifol yn bersonol am gynnal y refferendwm. Rôl y Swyddog Cyfrif oedd sicrhau bod y refferendwm yn cael ei weinyddu'n effeithiol yn eu hardal nhw. Roedd hyn yn cynnwys rheoli sut gafodd y bleidlais ei chynnal, cyfrif y pleidleisiau a throsglwyddo'r cyfansymiau lleol i'r Swyddog Cyfrif Rhanbarthol. Yng Ngogledd Iwerddon Prif Swyddog Etholiadol Gogledd Iwerddon oedd y Swyddog Cyfrif.
- Roedd rheoliadau Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (Costau Swyddogion Cyfrif a Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol) 2016 yn gosod y Swm Adferadwy Mwyaf oedd Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif yn gallu adfer ar gyfer eu costau yn rhedeg y refferendwm. Roedd hyn yn cynnwys eu gwasanaethau personol i ddarparu'r rolau hynny a'r treuliau ar gyfer gweinyddu'r bleidlais.