Cyhoeddi ffigyrau rhoddion a benthyca diweddaraf pleidiau gwleidyddol
Ffeithiau a ffigurau
Adroddodd pleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon iddynt dderbyn dros £6.9 miliwn mewn rhoddion rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2018, yn ôl ffigyrau newydd a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol heddiw.
Ym Mhrydain Fawr, adroddodd saith o bleidiau gwleidyddol eu bod wedi derbyn £6,914,649 o roddion yn y cyfnod yma. Mae hyn yn £2.4 miliwn yn llai na beth dderbyniwyd yn yr un cyfnod y llynedd (£9.3 miliwn), £200,000 yn fwy o'i gymharu â'r chwarter olaf yn 2017, rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr (£6.7 miliwn).
Y saith blaid adroddodd rhoddion oedd:
Plaid | Rhoddion a dderbyniwyd yn chwarter 1 2018 |
---|---|
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £4,724,776 |
Y Blaid Gydweithredol | £8,000 |
Y Blaid Werdd | £1,800 |
Y Blaid Lafur | £1,494,267 |
Democratiaid Rhyddfrydol | £564,135 |
Renew | £111,671 |
Women’s Equality Party | £10,000 |
Yn ogystal â'r rhoddion hyn, yn ystod chwarter cyntaf 2018, derbyniodd pum plaid cyfanswm o fwy na £1.7 miliwn o gronfeydd cyhoeddus - arian a chymorth i'r gwrthbleidiau i helpu gyda chostau.
Gwerth y benthyciadau sy'n ddyledus gan bleidiau gwleidyddol ar 31 Mawrth 2018 oedd £3.7 miliwn sy'n ostyngiad o £614,707 o'i gymharu â 31 Mawrth 2017 (£3,099,994).
Methodd un ar bymtheg o bleidiau fodloni'r dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer y chwarter yma. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o'r materion yma yn unol â'i bolisi gorfodi, sydd ar gael i'w weld yma.
Dywedodd Bob Posner, Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio a Chwnsler Cyfreithiol y Comisiwn Etholiadol:
Mae'r data yma'n bwysig i sicrhau bod ein system cyllid gwleidyddol mor dryloyw â phosibl ledled y DU. Mae wastad yn siomedig bod pleidiau yn methu ag anfon eu cofnodion ar amser. Lle nad oes esboniad rhesymol am fethiant o'r fath byddwn yn cymryd agwedd gadarn at ddelio â hyn yn unol â'n Polisi Gorfodi.
Gogledd Iwerddon
Cyhoeddwyd rhoddion adroddwyd gan bleidiau gwleidyddol Gogledd Iwerddon heddiw hefyd. Adroddodd dwy blaid wleidyddol gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon dderbyn cyfanswm o £6,000 o roddion, ac adroddodd chwe phlaid wleidyddol gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon dderbyn cyfanswm o £271,039 o gronfeydd cyhoeddus rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2018.
Mae datganiad i'r wasg (Saesneg) a dogfen grynodeb (Saesneg) wedi eu cyhoeddi ar wefan y Comisiwn.
Rhagor o wybodaeth
Mae crynodeb o roddion a adroddwyd gan bleidiau Prydain Fawr yn chwarter cyntaf 2018, gan gynnwys y prif roddwyr, ar gael ar wefan y Comisiwn.
Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau ar gael ar ein cofrestrau.
Mae dadansoddiad llawn a'r ffigyrau ar gyfer chwarter un 2018 ar gael ar ein gwefan.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau o arian a ddim yn arian yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd holl roddion a benthyciadau o dros £7,500 i'r blaid ganolog, neu dros £1,500 i uned cyfrifo. Mae hyn yn cynnwys cydgrynhoad o roddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn calendr.
- Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn y mae pleidiau yn eu hadrodd, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yn Natganiad Cyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol.
- Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Byr' a 'Cranborne' ar gael i bleidiau'r wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi yn ôl eu trefn.
- Mae rhai rhoddion gan y Comisiwn Etholiadol yn ymddangos ar y gofrestr. Rhain yw'r Grantiau Datblygu Polisi, a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sydd â dau neu fwy o aelodau yn eistedd yn Nhŷ'r cyffredin. Bwriad y grantiau yw cynorthwyo pleidiau i ddatblygu'r polisïau y byddant yn cyflwyno mewn maniffesto etholiadol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu ar gyfer £2 miliwn yn flynyddol ar gyfer hyn. Daeth Grantiau Datblygu Polisi yn adroddadwy fel rhoddion am y tro cyntaf yn chwarter tri 2006, o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
- Roedd 394o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ym Mhrydain Fawr yn ystod y chwarter un 2018. Roedd gofyn bod 82 yn cyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol, a 76 yn cyflwyno gwybodaeth benthyca erbyn y dyddiad cau perthnasol. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill (heblaw iddynt dderbyn rhoddion) gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol.
- Mae'r ffigyrau a adroddwyd ar gyfer rhoddion a benthyca chwarterol wedi'u talgrynnu i'r £ agosaf. Mae'r union ffigyrau ar gael ar ein gwefan.