Cyhoeddi ffigyrau rhoddion a benthyca diweddaraf pleidiau gwleidyddol
Ffeithiau a ffigurau
Adroddodd pleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon iddynt dderbyn cyfanwm o £8,541,092 mewn rhoddion rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2018, yn ôl ffigyrau newydd a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol heddiw.
Ym Mhrydain Fawr, adroddodd 12 o bleidiau gwleidyddol eu bod wedi derbyn £8,470,582 o roddion yn y cyfnod yma. Dyma tua'r un swm a adroddwyd yn y chwarter blaneorol, rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2018 (£8,405,500).
Y 12 plaid adroddodd rhoddion oedd:
Plaid | Rhoddion ag eithrio cronfeydd cyhoeddus | Cronfeydd cyhoeddus | Cyfanswm a dderbyniwyd yn chwarter 3 2018 |
---|---|---|---|
British National Party | £9,876 | - | £9,876 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol |
£4,574,861 | £121,042 | £4,695,903 |
Y Blaid Gydweithredol |
£317,800 | - | £317,800 |
Y Blaid Werdd | £8,875 | £27,611 | £36,486 |
Y Blaid Lafur | £2,037,403 | £2,157,392 | £4,194,794 |
Democratiaid Rhyddfrydol |
£822,230 | £248,298 | £1,070,528 |
Plaid Cymru | £410,000 | £24,928 | £434,928 |
Renew | £45,000 | - | £45,000 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) |
£153,045 | £192,928 | £345,902 |
Plaid Sosialaidd yr Alban |
£34,492 | - | £34,492 |
Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) |
£52,000 | - | £52,000 |
Women's Equality Party | £5,000 | - | £5,000 |
Yn ogystal â'r rhoddion hyn, yn ystod trydydd chwarter 2018, derbyniodd chwe phlaid gyfanswm cyllid o dros £2.7 miliwn o gronfeydd cyhoeddus. Gallwch weld hyn ar y dudalen grynodeb.
Mae'r cyfansymiau a gyhoeddwyd heddiw ac sydd wedi'u gosod uchod yn cynrychioli cyfanswm y rhoddion hynny sy'n ddigon mawr i fod yn fwy na'r trothwyon cyfreithiol. Mae'n debygol bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill gan unigolion neu gyrff gwahanol sydd yn llai na'r trothwyon cyfreithiol ar gyfer adrodd i'r Comisiwn. O'u cymryd fel cyfanswm gall y rhain fod yn ffynonellau sylweddol o incwm i bleidiau.
Methodd dau ar bymtheg o bleidiau gyflwyno adroddiadau erbyn y dyddiad cau ar gyfer y chwarter yma. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o'r materion yma yn unol â'i Bolisi Gorfodi.
Benthyca
Gwerth y benthyciadau sy'n ddyledus gan bleidiau gwleidyddol ar 30 Medi 2018 oedd bron i £3.5 miliwn sy'n ostyngiad o bron i £300,000 o'i gymharu â 3 Mehefin 2018 (£3,8 miliwn). Mae'r lleihad yma'n dilyn archwiliad y gofrestr Trafodion (Benthyciadau) ar gyfer pleidiau gwleidyddol.
Darganfu'r Comisiwn bod nifer o bleidiau wedi methu ag adrodd newidiadau i fenthyciadau mewn chwarteri'r blaenorol yn gywir. Cyfanswm yr adroddiadau adroddwyd yn hwyr oedd bron i £390,000. Mae methiant y pleidiau hyn i adrodd newidiadau fenthyciadau yn cael eu hystyried yn unol â Pholisi Gorfodi'r Comisiwn.
Dywedodd Bob Posner, Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio a Chwnsler Cyfreithiol y Comisiwn Etholiadol:
Mae cyhoeddi data am roddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ar ein cronfa ddata ar-lein yn golygu gall pleidleiswyr weld yn glir o ble mae pleidiau gwleidyddol yn cael eu cyllid. Mae hyn yn arwain at system gyllid gwleidyddol tryloyw ac mae'n helpu sicrhau cydymffurfiaeth.
Lle bo pleidiau'n methu â chyflwyno eu cofnod ar amser, ac nad oes esboniad rhesymol am fethiant o'r fath byddwn yn cymryd agwedd gadarn at ddelio â hyn yn unol â'n Polisi Gorfodi.
Rhagor o wybodaeth
Mae crynodeb o roddion a adroddwyd gan bleidiau Prydain Fawr yn nhrydydd chwarter 2018, gan gynnwys y prif roddwyr, a manylion adroddiadau hwyr ar gael ar wefan y Comisiwn.
Mae manylion llawn rhoddion adroddwyd gan bleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon yn ein datganiad i'r wasg.
Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau ar gael ar ein cofrestrau.
Ends
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 41)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch. accessible
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau o arian a ddim yn arian yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd holl roddion a benthyciadau o dros £7,500 i'r blaid ganolog, neu dros £1,500 i uned cyfrifo. Mae hyn yn cynnwys cydgrynhoad o roddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn calendr.
- Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn y mae pleidiau yn eu hadrodd, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yn Natganiad Cyfrifon blynyddolpleidiau gwleidyddol.
- Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Byr' a 'Cranborne' ar gael i bleidiau’r wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi yn ôl eu trefn.
- Mae rhai rhoddion gan y Comisiwn Etholiadol yn ymddangos ar y gofrestr. Rhain yw'r Grantiau Datblygu Polisi, a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sydd â dau neu fwy o aelodau yn eistedd yn Nhŷ'r cyffredin. Bwriad y grantiau yw cynorthwyo pleidiau i ddatblygu'r polisïau y byddant yn cyflwyno mewn maniffesto etholiadol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu ar gyfer £2 miliwn yn flynyddol ar gyfer hyn. Daeth Grantiau Datblygu Polisi yn adroddadwy fel rhoddion am y tro cyntaf yn chwarter tri 2006, o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
- Roedd 339 o bleidiau gwleidyddol wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr yn ystod chwarter tri 2018. Roedd gofyn bod 70 ohonynt yn cyflwyno eu cofnodion gwariant chwarterol a 63 yn cyflwyno gwybodaeth benthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill (heblaw iddynt dderbyn rhoddion) gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol.
- Mae'r ffigyrau a adroddwyd ar gyfer rhoddion a benthyca chwarterol wedi'u talgrynnu i'r £ agosaf. Mae'r union ffigyrau ar gael ar ein gwefan.