Cyhoeddi nifer a bleidleisiodd yn Refferendwm yr UE
Rhannu'r dudalen hon:
Diweddariad ar y refferendwm
Mae Prif Swyddog Cyfrif ar gyfer Refferendwm yr UE, Jenny Watson wedi cyhoeddi'r nifer swyddogol o bobl a bleidleisiodd yn y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd o Neuadd y Dre, Manceinion.
Mae'r cyfansymiau papurau pleidleisio a ddilyswyd ar gyfer y tri chant wyth deg a dau o ardaloedd pleidleisio wedi eu cyflwyno a'u cymeradwy gan y Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol.
Ledled y DU a Gibraltar, mae Swyddogion Cyfrif wedi dilysu y bydd cyfanswm o 33,568,184 o bapurau pleidleisio yn cael eu cynnwys yn y cyfrif ar gyfer y refferendwm.
Yn seiliedig ar etholaeth a gadarnhawyd o 46,500,001, y canran o bobl a bleidleisiodd yn y refferendwm oedd 72.2%.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch:
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol a grëwyd gan Senedd y DU. Ein hamcan yw hygrededd a hyder y cyhoedd ym mhroses ddemocrataidd y DU. Rydym yn rheoleiddio cyllid pleidiau ac etholiadau ac yn gosod safonau ar gyfer etholiadau a gynhelir yn dda, ac rydym yn gyfrifol am gynnal a rheoleiddio refferenda a gynhelir yn unol â Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda (2000).
- Mae'r nifer cenedlaethol a bleidleisiodd yn seiliedig ar y cyfanswm o bapurau pleidleisio adroddwyd gan bob swyddog cyfrif.
- Dilysu yw cam cyntaf y broses gyfrif yn dilyn derbyn y blychau pleidleisio.
- Dilysu: Caiff papurau pleidleisio eu dilysu drwy gyfri'r nifer o bapurau pleidleisio (ond nid y pleidleisiau ar y cam hwn) ym mhob blwch pleidleisio. Mae staff y cyfrif yn gwirio bod y nifer o bapurau pleidleisio yn y ganolfan gyfrif yr un peth â'r disgwyl, yn unol â'r cofnodion a gedwir gan staff gorsaf bleidleisio. Unwaith bod y Swyddog Cyfrif yn fodlon bod cyfrif am yr holl bapurau pleidleisio, bydd y ffigwr o ran y nifer a bleidleisiodd yn lleol yn gallu cael ei gyhoeddi.
- Ddydd Mawrth 21 Mehefin, cyhoeddodd y Comisiwn y ffigwr etholaeth am y tro ar gyfer Refferendwm yr UE sef 46,499,537. Mae'r ffigwr terfynol yn wahanol gan y gellir gwneud newidiadau i'r gofrestr etholiadol ar ôl cyhoeddi'r diweddariad olaf sydd wedi ei amserlenni a hyd at 9pm ar y diwrnod pleidleisio i gywiro camgymeriad clercol er enghraifft.