Cyhoeddi'r ffigurau diweddaraf ar gyfer rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr
Introduction
Gwnaeth 11 o bleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr roi gwybod eu bod wedi derbyn cyfanswm o £6,835,235 mewn rhoddion yn ystod chwarter cyntaf 2019, yn ôl y ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn dros £3.7 miliwn yn llai na'r swm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter blaenorol, rhwng 1 Hydref 2018 a 31 Rhagfyr 2018.
Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau bob chwarter. O fewn y ffurflenni hyn, mae pleidiau yn rhoi gwybod am y canlynol:
- rhoddion a dderbyniwyd uwchlaw'r trothwy o £7,500 (£1,500 i unedau cyfrifyddu)
- rhoddion llai sydd gyda'i gilydd yn adio i gyfanswm sy'n uwch na'r trothwy adrodd
- rhoddion y dylid bod wedi rhoi gwybod amdanynt yn ystod chwarteri blaenorol;
- rhoddion nas caniateir y maent wedi'u derbyn a chamau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.
O ganlyniad i roddion nas caniateir sy'n cael eu dychwelyd a'n bod yn cael gwybod am rai rhoddion yn hwyr, gall y swm y mae plaid yn rhoi gwybod amdano mewn ffurflen chwarterol fod yn uwch na'r swm a dderbyniwyd.
Gwnaeth 13 o bleidiau gwleidyddol roi gwybod am roddion rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2019 ac roedd y rhain yn cynnwys:
Plaid |
Cyfanswm y rhoddwyd gwybod amdano yn ystod Ch1 2019 |
Rhoddion a dderbyniwyd yn ystod Ch1 2019 (ac eithrio cyllid cyhoeddus) |
Cyllid cyhoeddus a dderbyniwyd yn ystod Ch1 2019 |
Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod Ch1 |
---|---|---|---|---|
Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr |
£40,000 |
£40,000 |
£0 |
£40,000 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol |
£3,709,701 |
£3,614,163 |
£65,845 |
£3,680,008 |
Y Blaid Gydweithredol |
£10,150 |
£10,150 |
£0 |
£10,150 |
Y Blaid Werdd |
£45,911 |
£18,300 |
£27,611 |
£45,911 |
Y Blaid Lafur |
£3,558,311 |
£2,023,714 |
£1,496,138 |
£3,519,852 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol |
£1,122,605 |
£755,122 |
£249,236 |
£1,004,358 |
Plaid Cymru |
£24,928 |
£0 |
£24,928 |
£24,928 |
Y Blaid Renew |
£149,999 |
£149,999 |
£0 |
£149,999 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) |
£259,034 |
£61,262 |
£197,772 |
£259,034 |
Plaid Brexit |
£1,000 |
£0 |
£0 |
£0 |
Y Blaid Radicalaidd |
£10,000 |
£10,000 |
£0 |
£10,000 |
Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (UKIP) |
£117,525 |
£117,525 |
£0 |
£117,525 |
Plaid Cydraddoldeb Merched |
£35,000 |
£35,000 |
£0 |
£35,000 |
Cyfanswm |
£9,069,848 |
£6,835,235 |
£2,061,530 |
£8,896,765 |
Yn ogystal â'r rhoddion hyn, yn ystod chwarter cyntaf 2019, derbyniodd chwe phlaid gyfanswm o fwy na £2 miliwn mewn cyllid cyhoeddus (manylion yn y tabl uchod).
Mae'r cyfansymiau a gyhoeddwyd heddiw ac sydd wedi'u nodi uchod yn cynrychioli swm y rhoddion hynny sy'n ddigon mawr i fod uwchlaw'r trothwyon adrodd. Mae'n debygol y bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill gan unigolion neu gyrff gwahanol sydd islaw trothwyon adrodd i'r Comisiwn. Gan eu hystyried fel cyfanswm, gall y rhain fod yn ffynonellau sylweddol o incwm i'r pleidiau.
Methodd wyth plaid â bodloni'r dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer y chwarter hwn. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o'r materion hyn yn unol â'i Bolisi Gorfodi a bydd yn cyhoeddi unrhyw sancsiynau i'w cymhwyso yn ddiweddarach.
Benthyg
Roedd gwerth benthyciadau dyledus i bleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr o 31 Mawrth 2019 yn £3,658,521 sy'n gynnydd o £166,397 o gymharu â diwedd y chwarter diwethaf (31 Rhagfyr 2018).
Meddai Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio yn y Comisiwn Etholiadol:
"Mae cyhoeddi data am roddion a benthyciadau pleidiau ar ein cronfa ddata ar-lein yn golygu y gall pleidleiswyr weld yn glir o ble yn union y mae'r pleidiau gwleidyddol yn cael eu cyllid. Mae hyn yn arwain at system cyllid gwleidyddol mwy tryloyw a dibynadwy ac yn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth.
"Lle mae pleidiau yn methu â chyflwyno eu ffurflen ar amser, ac nad oes unrhyw esboniad rhesymol am fethiant o'r fath, byddwn yn cymryd camau cadarn i ddelio â hyn yn unol â'n Polisi Gorfodi."
Further information
Rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir yn ystod Ch1 2019
Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi rhoddion a derbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir bob mis. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi etholedig perthnasol a chymdeithasau aelodau.
Yn ystod chwarter cyntaf 2019, derbyniwyd £120,316 roddion gan 62 o dderbynwyr. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod, yn ogystal â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae manylion llawn ar gael ar ein gwefan.
Math o dderbynnydd a reoleiddir |
Gwerth rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd yn Ch1 2019 |
Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor yn ystod Ch1 2019 |
Cyfanswm y rhoddion a dderbyniwyd yn ystod Ch1 2019 |
---|---|---|---|
Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru |
£0 |
£14,590 |
£14,590 |
Aelodau o Gynulliad Llundain Fwyaf |
£58,500 |
£0 |
£58,500 |
Meiri Etholedig |
£113,096 |
£0 |
£113,096 |
Swyddogion etholedig (cynghorwyr) |
£340,375 |
£0 |
£340,375 |
Cymdeithasau aelodau |
£530,480 |
£59,495 |
£589,975 |
Aelodau o Senedd yr Alban |
£3,780 |
£0 |
£3,780 |
Cyfansymiau |
£1,046,231 |
£74,085 |
£1,120,316 |
Rhagor o wybodaeth
Mae crynodeb o'r rhoddion y rhoddwyd gwybod amdanynt gan bleidiau Prydain Fawr yn ystod chwarter cyntaf 2019, gan gynnwys y rhoddwyr mwyaf a manylion adroddiadau hwyr ar gael ar wefan y Comisiwn.
I gael gwybodaeth am roddion a chyllid cyhoeddus y rhoddwyd gwybod amdanynt gan bleidiau gwleidyddol a derbynwyr a reoleiddir yng Ngogledd Iwerddon, darllenwch ein datganiad i'r wasg.
Mae manylion llawn am roddion a benthyciadau ar gael ar ein cofrestrau
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau uniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, gyda'r nod o wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol roi gwybod am roddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod a benthyciadau i'r Comisiwn Etholiadol bob chwarter. Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol roi gwybod am yr holl roddion a benthyciadau dros £7,500 sy'n gysylltiedig â'r blaid ganolog, neu dros £1,500 os yw'n gysylltiedig â'r uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys cyfansymiau o roddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr.
- Gan fod y pleidiau ond yn rhoi gwybod am roddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn, nid yw'r ffigurau yn cynnwys pob rhodd a benthyciad i bleidiau gwleidyddol. Caiff y rhoddion a'r benthyciadau o dan y trothwyon hyn eu cofnodi yn Natganiad Cyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol.
- Ystyr cyllid cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i wrthbleidiau y naill i Dŷ'r Cyffredin a'r llall i Dŷ'r Arglwyddi.
- Nodwyd ar y gofrestr bod rhai rhoddion yn dod o'r Comisiwn Etholiadol. Grantiau Datblygu Polisi yw'r rhain, a gafodd eu sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sy'n cael eu cynrychioli gan ddau aelod presennol neu fwy yn Nhŷ'r Cyffredin. Nod y grantiau yw helpu pleidiau i ddatblygu polisïau y byddant yn eu cyflwyno mewn maniffesto etholiad. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu swm o £2 miliwn bob blwyddyn at y diben hwn. Roedd yn ofynnol i adrodd am Grantiau Datblygu Polisi fel rhoddion am y tro cyntaf yn chwarter tri 20016 o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
- Roedd 346 o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ym Mhrydain Fawr yn ystod chwarter un 2019. Roedd yn ofynnol i 67 ohonynt gyflwyno adroddiad chwarterol ar roddion ac i 56 ohonynt gyflwyno gwybodaeth am fenthyg o fewn y dyddiad cau. Roedd y pleidiau gwleidyddol eraill wedi'u heithrio (oni bai eu bod wedi derbyn rhoddion) am eu bod wedi cyflwyno pedair ffurflen dim trafodion yn olynol.
- Mae'r ffigurau y rhoddwyd gwybod amdanynt ar gyfer rhoddion a benthyciadau chwarterol wedi'u talgrynnu. Mae'r union ffigurau ar gael ar ein gwefan.
- Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn yr ystyrir yn dderbynnydd a reoleiddir a'i ofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan.
- Mae Aelodau Seneddol yn rhoi gwybod am y rhoddion y gwnaethant eu derbyn i'r Gofrestr o Fuddiannau Ariannol Aelodau.
- Mae Aelodau o Senedd yr Alban yn rhoi gwybod am y rhoddion y gwnaethant eu derbyn i Gofrestr Buddiannau Senedd yr Alban.
- Mae pob derbynnydd arall a reoleiddir yn rhoi gwybod am eu rhoddion i ni yn uniongyrchol. Yna, rydym yn cyflwyno'r wybodaeth hon bob mis fel rhan o'n rôl yn darparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.