Cyhoeddir y cyfrifon ariannol diweddaraf ar gyfer pleidiau gwleidyddol mwy
Ffeithiau a ffigurau ariannol
Mae cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol a'u hunedau cyfrifo ym Mhrydain Fawr, gydag incwm neu wariant o dros £250,000 wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn gorffen ar 31 Rhagfyr 2017.
Incwm a gwariant pleidiau canolog
Mae deg o bleidiau ym Mhrydain Fawr wedi adrodd incwm gros neu gyfanswm gwariant o dros £250,000 yn 2017. Cyfanswm incwm y pleidiau hyn oedd £125,322,000 a gwariant o £122,194,000. Mae hyn o'i gymharu â 12 o bleidiau yn 2016.
Plaid | Incwm | Gwariant |
---|---|---|
Y Blaid Lafur | £55,793,000 | £54,342,00 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £45,947,000 | £44,867,000 |
Democratiaid Rhyddfrydol | £9,710,000 | £10,454,000 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £5,800,000 | £5,098,000 |
Y Blaid Werdd | £2,472,000 | £2,284,000 |
Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) | £1,739,000 | £1,939,000 |
Plaid Cymru | £1,262,000 | £757,000 |
Y Blaid Gydweithredol | £1,202,000 | £1,146,000 |
Women's Equality Party | £994,000 | £931,000 |
Plaid Werdd yr Alban | £403,000 | £376,000 |
Cyfrif incwm a gwariant uned cyfrifo
Gall pleidiau gwleidyddol hefyd gofrestru 'unedau cyfrifo' gyda'r Comisiwn Etholiadol. Mae'r rhain yn unedau cyfansoddol neu gysylltiedig plaid wleidyddol, gan gynnwys pleidiau etholaethol, sy'n gweithredu eu cyllid ar wahân i'r brif blaid.
Mae wyth o unedau cyfrifo wedi adrodd gwariant neu incwm o dros £250,000. Cyfanswm incwm yr unedau cyfrifo hyn oedd £8,430,000 a gwariant o £7,978,000.
Plaid | Uned cyfrifo | Incwm | Gwariant |
---|---|---|---|
Democratiaid Rhyddfrydol | Lloegr | £3,168,000 | £3,005,000 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | Grŵp San Steffan | £1,567,000 | £1,627,000 |
Democratiaid Rhyddfrydol | Parliamentary Office of the Liberal Democrats | £1,032,000 | £1,108,000 |
Y Blaid Lafur | Scottish Labour Party | £739,000 | £715,000 |
Democratiaid Rhyddfrydol | Association of Liberal Party Councillors (ALDC) | £612,000 | £582,000 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | Dinasoedd Llundain a Westminster | £448,000 | £422,000 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | Bexleyheath a Crayford | £439,000 | £59,000 |
Democratiaid Rhyddfrydol | Yr Alban | £425,000 | £460,000 |
Cymariaethau gyda blynyddoedd blaenorol
Mae ffigyrau'r Datganiadau Cyfrifon a gyhoeddwyd heddiw wedi'u dangos yn erbyn y rhai ar gyfer y ddwy flynedd flaenorol yn y tablau isod. Mae manylion cyfrifon pleidiau ers 2002 ar ein gwefan.
Pleidiau gwleidyddol (PF)
2015 | 2016 | 2017 | |
---|---|---|---|
Incwm | £117,955,000 | £101,250,000 | £125,332,000 |
Gwariant | £115,281,000 | £94,251,000 | £122,194,000 |
Unedau cyfrifo (PF)
2015 | 2016 | 2017 | |
---|---|---|---|
Incwm | £8,922,000 | £8,394,000 | £8,430,000 |
Gwariant | £7,905,000 | £7,984,000 | £7,978,000 |
Y dyddiad cau i bleidiau ac unedau cyfrifo gydag incwm neu wariant o dros £250,000 i gyflwyno eu cyfrifon wedi'u harchwilio i'r Comisiwn Etholiadol oedd 7 Gorffennaf 2018. Fe wnaeth pob plaid ac uned cyfrifo gyflwyno'r cyfrifon erbyn y dyddiad cau.
Mae'r Comisiwn hefyd wedi cyhoeddi cyfrifon ariannol pleidiau yng Ngogledd Iwerddon gydag incwm neu wariant o fwy na £250,000.
Diwedd
Mae manylion llawn y cyfrifon a gyhoeddwyd heddiw ar gael ar ein gwefan yma
Yn gynharach fis yma fe gyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol gyfrifon ariannol pleidiau ac unedau cyfrifo gydag incwm neu wariant o £250,000 neu lai ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0555 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Nid oes gofyn bod unedau cyfrifo gydag incwm a gwariant o £25,000 neu lai yn cyflwyno eu cyfrifon.
- Ni ddylai'r ffaith bod Datganiad o Gyfrifon ar wefan y Comisiwn gael ei gymryd i nodi bod y Comisiwn Etholiadol wedi ei wirio na'i ddilysu mewn unrhyw ffordd.
- Nid yw ffigyrau pleidiau canolog yn cynnwys incwm a gwariant gan Unedau Cyfrifo.
- Mae ffigyrau incwm a gwariant wedi'u rowndio i'r £1,000 agosaf. Mae'r union ffigyrau i'w gweld ar y gronfa ddata ar-lein.
- Mae manylion o sut deliwyd gyda methiannau i gyflwyno Datganiadau o Gyfrifon erbyn y dyddiad cau yn y gorffennol ar ein cyhoeddiad o Achosion wedi Cau