Cynhaliwyd etholiad cyffredinol Senedd y DU, ond mae'r system etholiadol yn wynebu heriau sylweddol
Gwybodaeth etholiad cyffredinol
Gweinyddwyd etholiad cyffredinol Senedd y DU yn dda gan Swyddog Canlyniadau Lleol, ond ni ellir anwybyddu'r arwyddion bod angen llawer mwy o adnoddau ar y system etholiad, yn ôl adroddiad newydd gan y Comisiwn Etholiadol.
Mae'r adroddiad Gweinyddiaeth Etholiad Cyffredinol Senedd y DU Mehefin 2017, yn cymeradwyo Swyddog Canlyniadau Lleol am ddelio gyda'r etholiad annisgwyl, ond mae'n galw am gamau brys, gan gynnwys moderneiddio cyfraith etholiadol i leihau'r risgiau i etholiadau a gynhelir yn dda yn y dyfodol.
Adnoddau awdurdodau lleol yn prinhau
Yn etholiadau 2017 roedd nifer fechan o feysydd lle'r oedd rhai problemau wedi dangos na wnaeth rhai pleidleiswyr dderbyn y gwasanaeth y dylent fod yn gallu disgwyl. Roedd hefyd materion mwy difrifol gyda gweinyddu'r etholiad yn Plymouth a Newcastle-under-Lyme. Mae'r rhain yn dangos bod angen cymryd mwy o gamau i ddeall a mynd i'r afael â'r heriau cynyddol sy'n wynebu Swyddogion Canlyniadau wrth gyflawni etholiadau a gynhelir yn dda.
Mae'r adroddiad yn amlygu bod Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol yn wynebu llai o adnoddau, a bod nifer cynyddol o swyddogion proffesiynol yn gadael timau etholiadol awdurdodau lleol.
Mae'r Comisiwn hefyd yn galw ar i lywodraethau'r DU i wneud cynyddu yn gweithredu'r argymhellion pwysig a wnaed gan Gomisiynau'r Gyfraith yn 2016 i ddiwygio a symleiddio ein fframwaith cyfraith etholiadol cymhleth a thameidiog. Byddai cynigion Comisiynau'r Gyfraith yn creu buddion sylweddol i'r rheiny sy'n gweinyddu'r etholiadau, yn ogystal â phleidleiswyr a'r rheiny sy'n ymgyrchu neu'n sefyll fel ymgeiswyr, a byddai'n cefnogi gweinyddiaeth etholiadol fwy effeithlon yn y dyfodol.
Dywedodd Syr John Holmes, cadeirydd y Comisiwn Etholiadol:
Fel gweddill y sector cyhoeddus, mae awdurdodau lleol yn teimlo'r pwysau ariannol a gall etholiadau anisgwyl roi straen ychwanegol arnynt. Mae'n bwysig sicrhau bod ganddynt adnoddau ac arbenigedd i gynnal ein hetholiadau’n dda. Byddai'r newidiadau argymhellir i gyfraith etholiadol hefyd yn gwneud ein prosesau etholiadol yn symlach a mwy effeithiol. Rwy'n annog llywodraethau'r DU i'w hystyried ar frys.
Mae'r adroddiad llawn ar gael yma.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Mae'n gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.