Y Broses Cadarnhau ac Adolygu Cymhwysedd ar gyfer Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd
Cyflwynwyd newidiadau i etholfraint dinasyddion yr UE gan Ddeddf Etholiadau 2022. Bydd hawl gyffredinol dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd i gofrestru, pleidleisio a sefyll yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael ei ddileu ond ni fydd yr etholfraint ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn cael ei effeithio.
Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar hawliau dinasyddion o Iwerddon, Malta na Chyprus.
Mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio Etholfraint ac Adolygu Cymhwysedd) 2023 yn darparu manylion y broses y bydd yn ofynnol i chi ei dilyn i adolygu cymhwysedd dinasyddion yr UE ar y gofrestr.
Mae'r canllawiau hyn wedi'u cynhyrchu i gefnogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gynllunio a chyflawni'r broses hon a elwir yn broses Cadarnhau ac Adolygu Cymhwysedd (ECR).
Mae'n cynnwys yr hyn y dylech ei ystyried wrth gynllunio a chyflwyno'r adolygiad; sut y mae'n rhaid cyflawni'r prosesau adolygu, gan gynnwys yr adolygiad seiliedig ar ddata a gohebiaeth; canlyniadau posibl y prosesau adolygu; a'r gofyniad i ddarparu data i ni at ddiben gwerthuso'r newid.
Pan ddaw’r newidiadau i’r etholfraint ar gyfer dinasyddion yr UE i rym, bydd newidiadau’n cael eu gwneud i’r ffurflenni cais i gofrestru i bleidleisio a chyfathrebiadau canfasio er mwyn galluogi etholwyr i ddeall y newid i’r meini prawf cymhwysedd, ac i alluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i benderfynu ar gymhwysedd dinasyddion yr UE o dan y meini prawf newydd.
Byddwn hefyd yn diweddaru ein canllawiau presennol bryd hynny gan gynnwys ein harweiniad ynghylch pryd y gall dinesydd o’r Undeb Ewropeaidd gofrestru i bleidleisio ac ar y marcwyr etholfraint perthnasol ar y gofrestr. Bydd ein cyfres o dempledi ar gyfer Gwahoddiadau i Gofrestru a chyfathrebiadau canfasio hefyd yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau hyn.
Ceir canllawiau ar y newidiadau i hawliau dinasyddion yr UE i sefyll etholiad yn ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid.