Lle na allwch benderfynu drwy’r adolygiad ar sail data a yw dinesydd yr UE yn gymwys i barhau i fod wedi’i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, rhaid i chi symud ymlaen i’r adolygiad gohebiaeth. 1
Diben yr adolygiad gohebiaeth yw eich galluogi i ofyn am y cyfryw wybodaeth ag sy'n angenrheidiol i'ch galluogi i wneud penderfyniad o dan y meini prawf newydd. Ar ddiwedd y broses, mae'n rhaid i chi wneud penderfyniad a hysbysu'r etholwr o ganlyniad yr adolygiad.
Mae ein canllawiau yn rhoi manylion am wahanol gamau'r broses adolygu gohebiaeth, a'r hysbysiadau y mae'n rhaid i chi eu hanfon yn dibynnu ar ba ymateb a gewch o'r cyswllt a wnaethoch gyda'r etholwr.