Datganiad cymhwysedd

Os na all etholwr ddarparu cod rhannu a fydd yn caniatáu i chi weld ei statws mewnfudo gan ddefnyddio'r gwasanaeth gweld a phrofi , gallwch ofyn am ddatganiad cymhwysedd ynghyd ag unrhyw lythyrau neu ddogfennau a gyhoeddir gan y Swyddfa Gartref i gadarnhau statws mewnfudo hanesyddol yr etholwr.

Rhaid i’r datganiad cymhwysedd fod yn ysgrifenedig ac yn cynnwys: 1

  • Enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad presennol yr etholwr
  • Eu henw llawn ar ddyddiad cwblhau’r cyfnod gweithredu ac, os yw'n wahanol i'w henw llawn presennol, esboniad am y gwahaniaeth hwnnw.
  • Cadarnhad eu bod yn ymwybodol ei bod yn drosedd darparu gwybodaeth ffug ac o’r gosb uchaf am y drosedd honno
  • Y dyddiad y mae'r datganiad wedi'i wneud

Yn ogystal â’r wybodaeth hon, efallai y byddwch hefyd yn gofyn i’r etholwr ddarparu gwybodaeth naill ai yn y datganiad cymhwysedd neu ar ddogfennau gan y Swyddfa Gartref yn cadarnhau: 2

  • y dyddiad y daethant i fyw yn y DU
  • eu cenedligrwydd ar ddyddiad dechrau’r cyfnod gweithredu
  • eu statws mewnfudo ar ddyddiad dechrau’r cyfnod gweithredu
  • eu statws mewnfudo presennol
  • manylion unrhyw fathau eraill o statws mewnfudo sydd ganddynt ers dyddiad dechrau’r cyfnod gweithredu
  • unrhyw gyfeiriadau eraill y maent wedi byw ynddynt yn y DU ers dyddiad dechrau’r cyfnod gweithredu

Gallai’r mathau o dystiolaeth ddogfennol y gellir eu darparu gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Pasbort sy’n cynnwys ardystiad o ganiatâd i aros/mynediad
  • Dogfen breswylio fiometrigy DU3
  • Cofnodion treth y cyngor sy’n dangos eu bod wedi talu hwn ers cyn dyddiad dechrau’r cyfnod gweithredu
  • Cytundebau rhentu neu gofnodion cymdeithasau tai yn dangos preswyliad cyn dyddiad dechrau’r cyfnod gweithredu

Lle rydych wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan etholwr, nid yw'n ofynnol i chi barhau â chylch erlid yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd ar gyfer yr etholwr hwnnw.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ionawr 2025