Gofyniad i geisio cyswllt personol

Mewn cylch gohebiaeth Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd llawn, rhaid i chi wneud o leiaf un ymgais i siarad â'r etholwr yn uniongyrchol, lle na cheir ymateb. 1  Gallwch gyfuno'r ymgais i gysylltu'n bersonol â chyflwyno'r hysbysiad adolygu cyntaf neu'r ail hysbysiad adolygu neu hysbysiad adolygu olaf tra'n aros am y cadarnhad o anghymwysedd. 

Lle rydych wedi cyhoeddi’r hysbysiad adolygu diwethaf tra'n aros am gadarnhad o anghymwysedd ac nid ydych wedi ceisio cysylltu'n bersonol o'r blaen, rhaid i chi geisio cyswllt personol â'r etholwr o fewn 7 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad. 2  Mae hyn er mwyn caniatáu digon o amser i'r etholwr ymateb yn ysgrifenedig i'ch ymgais i gysylltu'n bersonol cyn iddynt gael cadarnhad o gymhwysedd wedi dod i ben.

Gellir gwneud cyswllt personol naill ai: 3

  • dros y ffôn
  • drwy ymweld â chyfeiriad y person perthnasol

Efallai y byddwch yn penderfynu y bydd galwad ffôn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran amseriad y cyswllt personol neu efallai y byddwch yn penderfynu gwneud galwad ffôn lle rydych wedi ceisio cysylltu’n aflwyddiannus drwy ymweld â chyfeiriad yr etholwr. Nid oes dim i'ch atal rhag gwneud mwy nag un ymgais i wneud cyswllt personol.

Rhaid gwneud y cyswllt personol gyda’r bwriad penodol o gyfleu mai’r rheswm dros yr adolygiad yw cael neu annog ymateb i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani er mwyn cadarnhau cymhwysedd yr etholwr.  4

Nid yw’r gofyniad i geisio gwneud cyswllt personol yn berthnasol pan fo’r etholwr yn etholwr categori arbennig neu o dan 16 oed. 5

Fel gyda phob cam o’r broses hon, dylech sicrhau eich bod yn cadw cofnodion at ddiben cael trywydd archwilio clir o’r camau yr ydych wedi’u cymryd fel rhan o broses yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn gallu sefydlu eich bod wedi bodloni holl ofynion statudol y broses.

Os ydych wedi gwneud o leiaf un ymgais i gysylltu’n bersonol ac nad ydych wedi cael ymateb gan yr etholwr ar ôl 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad adolygu diwethaf tra’n aros am gadarnhad o anghymwysedd, gallwch symud i gam nesaf y broses drwy roi cadarnhad fod cymhwysedd wedi dod i ben  yn dilyn diffyg ymateb i gyfathrebiadau. 6  

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Ionawr 2024