Prosesu ymateb i'r Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd

Os byddwch yn cael ymateb i’r Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd gan etholwr ac yn cadarnhau ei fod yn bodloni’r gofynion preswylio hanesyddol, dylech dderbyn yr ymateb hwn ar ei olwg ac anfon Cadarnhad o Gymhwysedd a Gynhelir - Ar Sail Ohebiaeth. 1

Pan fyddwch yn derbyn ymateb i'r Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd gan etholwr sy'n nodi nad yw'n bodloni'r gofynion preswylio hanesyddol, dylech dderbyn yr ymateb ar ei olwg ac anfon cadarnhad o anghymwysedd sydd ar ddod.  I gael rhagor o wybodaeth gweler ein canllawiau ar brosesu ymateb i’r Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd.

Fodd bynnag, pan fydd etholwr yn darparu ymateb sy’n cynnwys gwybodaeth ychwanegol sy’n arwain at gais am ragor o wybodaeth a bod yr etholwr yn darparu naill ai cod gweld a phrofi neu ddatganiad cymhwysedd ac unrhyw dystiolaeth ddogfennol ategol arall, bydd angen i chi gymryd rhai camau pellach i gallu pennu eu cymhwysedd. 

Pan ddarperir cod gweld a phrofi, gallwch ei ddefnyddio drwy fewngofnodi i wefan llywodraeth y DU ac wrth nodi’r cod dylech weld: 

Cynnal gwiriad statws mewnfudo ar-lein y Swyddfa Gartref

Cam 1: Defnyddiwch wasanaeth ar-lein y Swyddfa Gartref

I wirio statws mewnfudo’r person, bydd angen i chi:

  • cyrchwch y gwasanaeth yn Gwiriwch statws mewnfudo rhywun: defnyddiwch eu cod rhannu - GOV.UK (www.gov.uk)
  • nodwch y cod rhannu 9 nod a ddarparwyd i chi gan yr unigolyn (rhaid iddo ddechrau gyda'r llythyren S)
  • nodi eu dyddiad geni

Os yw cod rhannu wedi dod i ben neu’n dechrau gyda llythyren heblaw S, rhaid i chi ofyn i’r person greu cod rhannu newydd.

Gall yr unigolyn ddarparu’r cod rhannu i chi’n uniongyrchol, neu efallai y bydd yn dewis ei anfon atoch drwy’r gwasanaeth. Os byddant yn dewis ei hanfon atoch drwy'r gwasanaeth, byddwch yn derbyn e-bost gan [email protected]. Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael yn Gymraeg felly mae'r delweddau a ddarperir yn yr adran hon o'r canllawiau ar gael yn Saesneg yn unig. 

Dyma enghraifft o ddelwedd  o'r neges y mae gwiriwr yn ei derbyn pan fydd unigolyn wedi anfon ei god rhannu at y gwiriwr trwy'r gwasanaeth ar-lein. 
 

Cam 2: Gwirio

Bydd canlyniad y gwiriad statws mewnfudo yn cadarnhau statws mewnfudo presennol y person. 
 

Dyma lun o’r gwasanaeth ar-lein sy’n dangos bod gan yr unigolyn statws preswylydd cyn-sefydlog o dan Gynllun Setliad yr UE, a elwir fel arall yn ganiatâd cyfyngedig i aros.

Cam 3: Cadw tystiolaeth o'r gwiriad ar-lein

Gallwch gadw copi o'r gwiriad statws mewnfudo ar-lein. Dylai hon fod y dudalen broffil sy’n cadarnhau statws mewnfudo’r unigolyn ar yr adeg y cwblhawyd y gwiriad. Dyma’r dudalen sy’n cynnwys llun yr unigolyn a’r dyddiad y cynhaliwyd y gwiriad. Bydd gennych yr opsiwn o argraffu'r proffil neu ei gadw fel ffeil PDF neu HTML. 

Prosesu datganiadau cymhwysedd

Lle rydych wedi cael datganiad cymhwysedd gyda neu heb unrhyw dystiolaeth ddogfennol ategol ychwanegol, dylech adolygu’r cynnwys a phenderfynu a oes gennych ddigon o wybodaeth i allu penderfynu a yw’r etholwr yn bodloni’r gofynion cymhwysedd.

Dylid cadw unrhyw ddogfennaeth y byddwch yn ei phrosesu at ddiben pennu cymhwysedd yr etholwr, yn unol â’ch polisïau cadw dogfennau presennol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gadw dogfennau

Os penderfynwch eu bod yn bodloni'r gofynion, gallwch anfon Cadarnhad o Gymhwysedd a Gynhelir - Ar Sail Cymhwysedd. Os ydych yn credu nad ydynt, rhaid i chi anfon cadarnhad o anghymhwysedd sydd ar ddod. 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Ebrill 2024