Yr ail hysbysiad adolygu

Nid oes unrhyw wahaniaeth yn y gofynion ar gyfer cynnwys yr hysbysiad adolygu yn yr ail gam, ond mae gofynion y mae'n rhaid i chi eu dilyn ar gyfer cyflwyno'r ail hysbysiad. 1

Gallwch anfon yr ail hysbysiad adolygu i gyfeiriad cartref yr etholwr neu drwy e-bost. Fodd bynnag, os anfonwyd yr hysbysiad adolygu cyntaf drwy e-bost, rhaid anfon yr ail hysbysiad adolygu i gyfeiriad cartref yr etholwr. 2

Lle byddwch yn penderfynu dosbarthu’r hysbysiad adolygu â llaw i gyfeiriad yr etholwr, gallwch hefyd gyfuno hyn â’r ymgais cyswllt personol gofynnol

Mae canllawiau ar Ganlyniadau'r Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd yn ymdrin â phrosesu ymatebion i'r ail hysbysiad adolygu. 

Os na fyddwch yn cael ymateb i’r ail hysbysiad adolygu o fewn cyfnod rhesymol, rhaid i chi gyhoeddi Hysbysiad Adolygu Olaf Yn Ystod Anghymwysedd.3  Ni ddiffinnir cyfnod rhesymol yn y ddeddfwriaeth. Yn ein barn ni, ni ddylai fod yn hwy na 28 diwrnod ac, o dan rai amgylchiadau, gall fod yn fyrrach, er enghraifft, pan fyddwch yn agosáu at ddiwedd y canfas neu lle mae etholiad ar fin cael ei gynnal. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Ebrill 2024