Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Yr hysbysiad adolygu cyntaf
Rhaid ichi ddefnyddio’r hysbysiad adolygu a gymeradwywyd gan y Gweinidog dros yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ac sydd ar gael i chi gan y Comisiwn. 1
Mae’r hysbysiad adolygu yn cynnwys: 2
- esboniad o sut mae’r meini prawf y mae dinesydd o’r UE yn gymwys oddi tanynt i gofrestru i bleidleisio mewn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi newid
- datganiad nad yw cymhwysedd i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gysylltiedig â chymhwysedd i gofrestru a phleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol
- nad ydych yn sicr a ydynt yn parhau i fod yn gymwys i gael eu cofrestru i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a’r rheswm pam
- cwestiwn preswyliad hanesyddol y mae'n rhaid i'r etholwr ymateb iddo er mwyn i chi benderfynu a yw'n gymwys
- manylion ar sut y gall yr etholwr ymateb i chi i ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani
- datganiad ei bod yn drosedd darparu gwybodaeth ffug, a’r gosb am drosedd o’r fath
Mae'r hysbysiad adolygu yn cynnwys yr opsiwn i'r etholwr ymateb i'r cais am wybodaeth am breswyliad hanesyddol ar-lein gan ddefnyddio dolen cyflwyno unwaith yn unig. Os na allant ymateb ar-lein, mae'r hysbysiad papur yn cynnwys ffurflen y gallant ei chwblhau a'i dychwelyd atoch. Efallai y byddwch hefyd yn dewis caniatáu i etholwyr eich ffonio neu anfon e-bost atoch i roi ymateb i gwestiwn y preswyliad hanesyddol.
Rhaid i chi ddechrau proses yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd drwy roi hysbysiad i'r etholwr â llaw, drwy'r post, neu drwy e-bost. Nid oes gofyniad i gynnwys amlen ddychwelyd wedi'i thalu ymlaen llaw. 3
Wrth anfon yr hysbysiad adolygu drwy'r post, neu ei ddosbarthu â llaw i gyfeiriad etholwr dylech gyfeirio'r amlen eglurhaol ar gyfer yr hysbysiad adolygu at yr etholwr a enwir yn y cyfeiriad a nodwyd gennych. Fe allech chi hefyd argraffu ar yr amlen:
- cyfarwyddyd yn gofyn nad yw'r amlen yn cael ei hailgyfeirio os yw wedi'i chyfeirio'n anghywir
- cyfarwyddyd yn gofyn i unrhyw unigolyn arall sy’n derbyn yr amlen ac sy’n preswylio yn y cyfeiriad eich hysbysu os nad yw’r derbynnydd yn preswylio yno
- eich manylion cyswllt
Lle byddwch yn penderfynu dosbarthu’r hysbysiad adolygu â llaw i gyfeiriad etholwr, gallwch hefyd gyfuno hyn â’r ymgais cyswllt personol gofynnol. Bydd danfoniad â llaw yn rhoi sicrwydd i chi fod hysbysiad adolygu wedi'i gyflwyno'n llwyddiannus.
Sut bynnag y byddwch yn penderfynu cyflwyno’r hysbysiadau adolygu, dylech sicrhau bod gennych brosesau ar waith i greu trywydd archwilio o’r cyflenwadau.
Mae'r hysbysiad adolygu y mae'n rhaid i chi ei ddefnyddio ar gael ar ein gwefan.
Mae'r canllawiau ar Ganlyniadau'r Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd yn ymdrin â phrosesu ymatebion i'r hysbysiad adolygu cyntaf.
Rhaid i chi ychwanegu'r rhai sy'n cael eu hadolygu drwy anfon hysbysiad adolygu at y rhestr o adolygiadau. 4 Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar Pa wybodaeth y mae'n rhaid i mi ei chadw am adolygiadau cofrestru?
Os na fyddwch yn cael ymateb i’r hysbysiad adolygu cyntaf o fewn cyfnod rhesymol, yna mae’n rhaid i chi roi ail hysbysiad adolygu. 5
Ni ddiffinnir cyfnod rhesymol yn y ddeddfwriaeth. Yn ein barn ni, ni ddylai fod yn hwy na 28 diwrnod ac, o dan rai amgylchiadau, gall fod yn fyrrach, er enghraifft, pan fyddwch yn agosáu at ddiwedd y canfas neu lle mae etholiad ar fin cael ei gynnal.
- 1. Rheoliad 27 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio Etholfraint ac Adolygu Cymhwysedd) 2023 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 16(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygiad Etholfraint ac Adolygu Cymhwysedd) 2023 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 16(6) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio Etholfraint ac Adolygu Cymhwysedd) 2023 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 16 (1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio Etholfraint ac Adolygu Cymhwysedd) 2023 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 16(4) a (5) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio Etholfraint ac Adolygu Cymhwysedd) 2023 ↩ Back to content at footnote 5