Cadarnhad o gymhwysedd a gynhelir yn dilyn adolygiad

Lle rydych wedi gwneud penderfyniad cadarnhaol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd bod etholwr yn gymwys i barhau i bleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, rhaid i chi ddiweddaru'r marciwr i'r llythyren B yn erbyn enw'r person yn eich cofrestr ac anfon cadarnhad o'r cymhwysedd a gynhelir i'r etholwr. 1   

Mae'r gofyniad hwn yn berthnasol i etholwyr lle mae eu cymhwysedd wedi'i adolygu gan ddefnyddio naill ai'r broses adolygu yn seiliedig ar ddata neu'r broses adolygu gohebiaeth. 

Anfon cadarnhad o gymhwysedd a gynhelir 

Rhaid i chi ddefnyddio'r llythyr cadarnhau cymhwysedd a gynhelir a gymeradwywyd gan y Gweinidog dros yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ac sydd ar gael gan y Comisiwn. 2

Pan fydd templed llythyrau yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd ar gael, gallwch ddod o hyd iddo yma.

Rhaid i gynnwys y llythyr gynnwys: 3

  • Datganiad bod y meini prawf y mae dinesydd o’r UE yn gymwys i bleidleisio oddi tanynt yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi newid
  • Datganiad nad yw cymhwysedd i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gysylltiedig â chymhwysedd i gofrestru a phleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol
  • Cadarnhad bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi penderfynu bod yr etholwr yn parhau i fodloni'r meini prawf hynny

Gallwch anfon y llythyr cadarnhad at yr ymgeisydd:

  • â llaw 
  • drwy’r post 
  • drwy e-bost
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Ionawr 2024