Cadarnhad o gymhwysedd wedi dod i ben

Lle nad ydych wedi cael ymateb i’r hysbysiad adolygu diwethaf tra’n aros am gadarnhad o anghymwysedd o fewn y 14 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad, neu os nad ydych wedi cael ymateb erbyn y dyddiad gofynnol i Gais am Wybodaeth Bellach, gallwch benderfynu nad yw’r etholwr yn bodloni y meini prawf cofrestru newydd. Rhaid i chi ddiweddaru'r gofrestr i adlewyrchu'r newid yn ei gymhwysedd ac anfon Cadarnhad o Gymhwysedd Wedi Dod i Ben i'w hysbysu o'ch penderfyniad. 1

Rhaid i'r hysbysiad nodi: 2

  • bod y meini prawf y mae dinesydd yr UE yn gymwys i bleidleisio oddi tanynt mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi newid
  • nad yw cymhwysedd i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gysylltiedig â chymhwysedd i gofrestru a phleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol
  • nad ydych yn credu, yn eich barn chi, eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd, a’r rheswm dros eich barn
  • nad oes ganddynt hawl i apelio yn erbyn eich penderfyniad

Bydd yr hysbysiad hefyd yn cynnwys negeseuon i egluro, os ydynt wedi gweithredu fel dirprwy ar gyfer etholwr arall mewn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu o’r blaen, na fyddant yn gallu gwneud hyn mwyach. Dylech eu hannog i roi gwybod i'r etholwr arall fel y gallant benodi rhywun newydd. Mae ein canllawiau yn rhoi rhagor o wybodaeth am drefniadau pleidleisio drwy ddirprwy.

Rhaid i chi ddefnyddio'r llythyr cadarnhau a gymeradwywyd gan y Gweinidog dros yr Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau ac sydd ar gael gan y Comisiwn. 3

Pan fydd templed llythyrau yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd ar gael, gallwch ddod o hyd iddo yma.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Ebrill 2024