Hysbysiad adolygu olaf yn ystod anghymwysedd

Pan fyddwch wedi anfon hysbysiad adolygu cyntaf ac ail hysbysiad at etholwr ac nad ydych wedi cael ymateb o fewn amser rhesymol i ddyddiad yr ail hysbysiad, rhaid i chi anfon hysbysiad adolygu diwethaf at y person hyd nes y ceir cadarnhad o anghymwysedd. 

Rhaid i’r hysbysiad hwn fod yn llythyr sy’n cael ei ddanfon i gyfeiriad y person gydag amlen ateb ragdaledig wedi’i chyfeirio wedi’i chynnwys. 1

Rhaid i gynnwys yr hysbysiad gynnwys: 2

  • Yr wybodaeth a nodir yn yr hysbysiad adolygu cyntaf
  • Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad
  • Datganiad, os nad yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi derbyn y wybodaeth y gofynnwyd amdani o fewn 14 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad:
    • Gall y Swyddog Cofrestru Etholiadol benderfynu nad yw'r etholwr yn gymwys i bleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
    • Ni fyddai gan yr etholwr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Swyddog Cofrestru Etholiadol o dan yr amgylchiadau hyn

Lle rydych wedi cyhoeddi hysbysiad adolygu diwethaf tra'n aros am gadarnhad o anghymwysedd ac nad ydych wedi ceisio cysylltu'n bersonol o'r blaen, rhaid i chi geisio cyswllt personol  â'r etholwr o fewn 7 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad. 3
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Ebrill 2024