Penderfynu anghymhwysedd yn dilyn adolygiad

Lle mae etholwr wedi ymateb i hysbysiad adolygiad cyntaf, ail hysbysiad, neu hysbysiad adolygu diwethaf tra’n aros am gadarnhad o anghymwysedd gyda’r wybodaeth y gofynnoch amdani, a’ch bod wedi penderfynu nad yw’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd, rhaid i chi anfon Cadarnhad o Anghymhwysedd sydd Ar Ddod.1

Lle nad ydych wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol, neu lle rydych wedi cael ymateb ond nad ydych yn siŵr a yw’r etholwr yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd, mae gennych y pŵer i ofyn am ragor o wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniad. 2

Lle nad ydych wedi cael ymateb gan etholwr, rhaid i chi sicrhau eich bod wedi anfon yr hysbysiad adolygu diwethaf ato hyd nes y byddwch yn anghymwys ac wedi bodloni'r gofyniad i gysylltu'n bersonol cyn y gallwch wneud penderfyniad ynghylch ei anghymwysedd.  3
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Ebrill 2024