Pŵer y Swyddog Cofrestru Etholiadol i roi'r gorau i fynd ar drywydd cylch

Pan fyddwch yn cael ymateb gan etholwr ar unrhyw gam o broses yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd, nid oes angen i chi gwblhau cylch erlid yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd.

Mae yna hefyd rai amgylchiadau eraill a fydd yn dod â chylch erlid yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd i ben, a amlinellir isod.

Ceisiadau a dderbyniwyd cyn i adolygiad gohebiaeth Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd ddechrau 

Lle mae etholwyr wedi cyflwyno cais cofrestru newydd cyn i chi roi hysbysiad adolygu, gallwch ystyried y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y cais i ddiweddaru cofnod presennol yr etholwr (yn benodol ateb yr ymgeisydd i'r cwestiwn preswyliad hanesyddol) wrth benderfynu ar gymhwysedd yr ymgeisydd heb fynd ymlaen i gynnal adolygiad o’r ohebiaeth.

Os ydych yn fodlon bod yr ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd, mae'n rhaid i chi newid y marciwr cofrestr i B a gallwch anfon Cadarnhad o Gymhwysedd a Gynhelir – Ar Sail Data at yr ymgeisydd neu ddefnyddio gohebiaeth arall i nodi bod y cais wedi'i gymeradwyo.1

Ceisiadau a dderbyniwyd yn ystod adolygiad gohebiaeth yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd

Mae’n bosibl yn ystod y cyfnod adolygu - h.y. ar ôl i chi anfon hysbysiad adolygu - y gall etholwr ddewis cyflwyno cais cofrestru newydd yn hytrach nag, neu’n ychwanegol at, ymateb yn uniongyrchol i unrhyw hysbysiadau adolygu yr ydych wedi’u hanfon atynt. Rhaid i chi ddefnyddio’r wybodaeth berthnasol sydd wedi’i chynnwys yn y cais i ddiweddaru cofnod presennol yr etholwr, yn benodol ateb yr ymgeisydd i’r cwestiwn preswyliad hanesyddol, fel ymateb i adolygiad o ohebiaeth yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd ac i atal cylch erlid yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd yn unol â hynny. 2

Yna dylech symud ymlaen i benderfynu a yw'r etholwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd newydd. Os ydych yn fodlon bod yr ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd, rhaid ichi newid marciwr y gofrestr i B ac anfon Cadarnhad o Gymhwysedd a Gynhelir - Ar Sail Data at yr ymgeisydd.3

Mae hefyd yn bosibl, er yn annhebygol, y gall etholwr gyflwyno cais cofrestru newydd yn ystod y cyfnod adolygu ac yn ei gais gadarnhau nad yw’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd. Os byddwch yn derbyn cais o'r fath, rhaid i chi drin hwn fel ymateb i'r Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd ac atal y cylch erlid yn unol â hynny. 4  Yna dylech benderfynu nad yw'r etholwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd newydd a chyhoeddi Cadarnhad o Gymhwysedd a Gynhelir - Ar Sail Data.

Lle byddwch yn derbyn gwybodaeth arall yn ystod y cylch adolygu

Mae’n bosibl y byddwch yn cael gwybodaeth arall yn ystod y cylch adolygu sy’n golygu bod angen i chi adolygu cofrestriad yr etholwr am reswm nad yw’n gysylltiedig. Er enghraifft, efallai y byddwch yn derbyn hysbysiad bod yr etholwr wedi symud neu fod ei statws dinasyddiaeth wedi newid. Yn y sefyllfa hon, dylech atal cylch erlid yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd ac adolygu'r etholwr drwy ba bynnag broses bresennol sydd fwyaf priodol yn eich barn chi. 5

Efallai y bydd achosion unigol lle byddwch yn cael gwybodaeth gan etholwr nad yw’n gallu ymateb yn ystod yr amserlenni penodedig. Er enghraifft, os ydynt i ffwrdd o'u cyfeiriad am gyfnod estynedig. Mewn amgylchiadau o'r fath, dylech ystyried ymestyn yr amser a ganiateir i'r etholwr ymateb i chi.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Ebrill 2024