Casglu ac adrodd ar ddata - Cymru

Bydd gofyn i chi roi data i ni sy’n ymwneud â gweithrediad proses yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl 31 Ionawr 2025. 1  Byddwn yn rhannu'r data hwn â’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ac yn ei ddefnyddio i lywio ein hadroddiadau ar y darpariaethau hyn. 

Bydd y data gofynnol yn cynnwys: 2

  • cyfanswm nifer dinasyddion yr UE yr oedd angen eu hadolygu er mwyn pennu eu cymhwysedd i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu o dan y meini prawf newydd 
  • cyfanswm nifer y bobl y pennwyd yn gadarnhaol drwy’r adolygiad ar sail data – a lle, ar sail hynny, anfonwyd cadarnhad o gymhwysedd a gynhelir (CME) at yr etholwr (wedi’i ddadansoddi gan bersonau y cadarnhawyd eu bod yn ddinasyddion UE cymwys, a dinasyddion yr UE sydd â hawliau a gedwir).
  • cyfanswm nifer y bobl y pennwyd eu cymhwysedd parhaus o ganlyniad i adolygiad o’r ohebiaeth ac, ar y sail hon, yr anfonwyd cadarnhad o gymhwysedd a gynhelir iddynt (sylwer y bydd y ffigur hwn hefyd yn cynnwys yr achosion hynny lle mae Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi gwneud penderfyniad cadarnhaol ar sail ail-ymgeisio gan destun adolygiad gohebiaeth.) 
  • cyfanswm nifer y bobl yr oedd y Swyddog Cofrestru yn barnu nad oeddent bellach yn gymwys ar sail yr adolygiad gohebiaeth ac, ar y sail hon, yr anfonwyd cadarnhad o anghymwysedd (CFI) iddynt.
  • cyfanswm nifer y bobl y bernir eu bod yn anghymwys ar sail diffyg ymateb i'r adolygiad gohebiaeth ac, ar y sail hon, yr anfonwyd cadarnhad o gymhwysedd wedi dod i ben atynt. 
  • Cyfanswm y bobl a anfonwyd: 
    • hysbysiad adolygu cyntaf 
    • ail hysbysiad adolygu 
    • hysbysiad adolygu diwethaf tra'n aros i fod yn anghymwys 
  • cyfanswm nifer y bobl yr anfonodd y Swyddog Cofrestru Etholiadol gais am ragor o wybodaeth atynt, yn dilyn ymateb cychwynnol i'r adolygiad gohebiaeth.
  • cyfanswm nifer y bobl a ofynnodd am wrandawiad. 
  • cyfanswm nifer y bobl a oedd yn destun darpariaethau’r Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd i ddechrau ond a gafodd eu hadolygu, yn y pen draw, am resymau eraill (e.e. ddim yn preswylio mwyach). 
  • cyfanswm nifer y bobl a wnaeth ail gais, yn lle ymateb yn uniongyrchol i'r Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd, ac y penderfynwyd arnynt ar y sail honno. 
  • cyfanswm nifer yr etholwyr categori arbennig lle dewisodd y Swyddog Cofrestru Etholiadol ddefnyddio’r cylch adnewyddu datganiadau yn lle’r Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd (wedi’i rannu yn ôl personau y cadarnhawyd eu bod yn ddinasyddion UE cymwys a dinasyddion yr UE sydd â hawliau a gedwir). 
  • cyfanswm nifer y personau sydd wedi’u cofrestru naill ai fel dinasyddion UE cymwys neu ddinasyddion yr UE â hawliau a gedwir ar ddiwedd 31 Ionawr 2025 (gan gynnwys personau a wnaeth gais o dan y meini prawf newydd ar ôl y newid i’r etholfraint).

Rhoddir rhagor o wybodaeth am y broses ar gyfer casglu'r data hwn yn y Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol maes o law. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Ebrill 2024