Gwneud penderfyniadau ynghylch pennu llwybrau canfasio

Wrth gynllunio ar gyfer proses yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd bydd angen i chi hefyd ystyried y rhyngweithio rhwng yr elfen adolygu sy’n seiliedig ar ddata’r Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd, paru data canfasio, a phennu llwybrau canfasio.

Efallai y byddwch yn penderfynu cynnal adolygiad seiliedig ar ddata’r Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd ychydig cyn i chi gyflwyno eich cofrestr ar gyfer paru’r data canfasio. Ar ôl i chi gwblhau'r prosesau hyn, bydd angen i chi neilltuo llwybrau canfasio. Nid yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio Etholfraint ac Adolygu Cymhwysedd) 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i chi neilltuo llwybrau mewn ffordd benodol, felly byddwch yn gallu defnyddio eich disgresiwn ar gyfer hyn yn dibynnu ar eich cyd-destun lleol.

Wrth neilltuo llwybrau canfasio dylech ystyried:

  • canlyniadau'r broses paru data cenedlaethol ac unrhyw baru data lleol yr ydych eisoes wedi'i gwblhau
  • a yw un aelod o’r cartref, neu aelwyd gyfan, wedi’i fflagio fel un sydd angen ei adolygu drwy ohebiaeth ar gyfer yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd
  • na fydd y broses ganfasio yn eich galluogi i benderfynu a yw dinesydd yr UE yn gymwys i barhau i fod yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
  • sut i sicrhau nad yw etholwyr wedi drysu wrth dderbyn cyfathrebiadau gennych yn ymwneud â’r canfasiad a’r Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd. Dylech weithio gyda'ch tîm cyfathrebu i gynllunio'ch strategaeth at y diben hwn. 

Lle mae un aelod neu aelwyd gyfan wedi’i fflagio fel un sydd angen ei adolygu drwy ohebiaeth ar gyfer yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd, gallwch ddewis aseinio’r eiddo hyn i lwybr 2, ond nid oes gofyniad i wneud hynny. 

Yn yr holl benderfyniadau a wnewch, dylech sicrhau eich bod yn cadw trywydd archwilio clir o'ch proses gwneud penderfyniadau.

Dylech hefyd ystyried ein canllawiau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol - Dyrannu eiddo i lwybrau canfasio.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Ionawr 2024