Is-etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn ystod y cyfnod gweithredu

Os bydd is-etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn ystod y cyfnod gweithredu, bydd dinasyddion yr UE yn gallu pleidleisio pan fyddant yn bodloni un o’r amodau canlynol: 1

  • penderfynwyd ar eu cais i gofrestru i bleidleisio cyn dyddiad y newid i’r etholfraint (7 Mai 2024) neu gwnaethant gais cyn y newid i’r etholfraint (o dan yr hen reolau) a ganiatawyd y cais hwnnw i’r newid etholfraint ddod i rym
  • nid ydynt eto wedi'u hadolygu o dan broses yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd ac mae ganddynt farciwr G ar y gofrestr 
  • maent wedi'u hadolygu o dan broses yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd, maent yn gymwys i bleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac mae eu marciwr G wedi'i newid i farciwr B. 

Bydd etholwyr sydd wedi cael eu hadolygu ac nad ydynt yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael marc G ar y gofrestr ac ni fyddent yn gymwys i bleidleisio mewn unrhyw is-etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.2
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Ebrill 2024