Trefniadau pleidlais drwy ddirprwy – lle nad yw dirprwy penodedig bellach yn bleidleisiwr cymwys ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu - Cymru
Lle byddwch yn penderfynu nad yw dinesydd yr UE yn bodloni’r gofynion i gofrestru fel etholwr ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu o dan y meini prawf newydd, bydd cymhwysedd y person hwnnw i weithredu fel dirprwy ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu hefyd yn dod i ben. 1
Mae’r cadarnhad o gymhwysedd sydd wedi dod i ben yn cynnwys negeseuon i egluro i ddinesydd anghymwys o’r UE, os yw wedi gweithredu’n flaenorol fel dirprwy ar gyfer etholwr arall mewn etholiad Comisiynwyr Heddlu a Throseddu na fydd yn gallu gwneud hyn mwyach. Dylech eu hannog i roi gwybod i'r etholwr arall fel y gallant benodi rhywun newydd.
Yn y cyfnod cyn etholiad nesaf Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn dilyn proses yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd, dylech ystyried ychwanegu nodyn ychwanegol at eich llythyrau apwyntiad dirprwy neu gardiau pleidleisio i gynghori pleidleiswyr:
am y newid etholfraint i ddinasyddion yr UE
os ydynt wedi cael gwybod nad ydynt bellach yn gymwys i bleidleisio eu hunain mewn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, ni ddylid eu penodi fel dirprwy ar gyfer pleidleisiwr arall
os ydynt yn credu eu bod yn anghymwys i weithredu fel dirprwy mewn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, dylent hysbysu’r pleidleisiwr y’i penodwyd ar ei gyfer i’w galluogi i benodi rhywun arall.