Y diwygiad etholfraint ac adolygiad cymhwysedd dinasyddion yr UE

Bu i Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio Etholfraint ac Adolygu Cymhwysedd) 2023 diweddaru’r etholfraint ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a daeth i rym ar 7 Mai 2024.

Bydd hyn yn golygu, er mwyn pleidleisio neu sefyll yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, y bydd yn ofynnol i ddinesydd yr UE fod:

  • yn ddinesydd cymwys yr UE, neu
  • yn ddinesydd yr UE sydd â hawliau a gedwir

Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar hawliau dinasyddion o Iwerddon, Malta neu Gyprus sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad yn y DU.

Ystyr dinasyddion cymwys yr UE

Mae person yn ddinesydd cymwys yr UE os yw: 1

  • yn ddinesydd gwlad y mae gan y DU gytundeb Hawliau Pleidleisio ac Ymgeisyddiaeth (VCR) dwyochrog â hi 
  • yn preswylio yn y DU gydag unrhyw fath o ganiatâd i aros, neu nad oes angen caniatâd o’r fath arnynt 

Ar hyn o bryd mae gan y DU gytundebau dwyochrog â’r gwledydd canlynol:

  • Denmarc
  • Gwlad Pwyl
  • Lwcsembwrg
  • Portiwgal
  • Sbaen

Yn y canllawiau hyn rydym yn cyfeirio at y gwledydd hyn fel yr UE5. 

Mae gan ein canllawiau a all dinesydd o'r Undeb Ewropeaidd gofrestru i bleidleisio ragor o wybodaeth am gymhwysedd dinasyddion yr UE sy'n cofrestru i bleidleisio. 

Ystyr dinasyddion yr UE sydd â hawliau a gedwir

Mae person yn ddinesydd yr UE gyda hawliau a gedwir os ydynt: 2

  • yn ddinesydd gwlad nad oes gan y DU gytundeb Hawliau Pleidleisio ac Ymgeisyddiaeth (VCR) â hi 
  • wedi bod yn preswylio’n gyfreithiol yn y DU ers cyn i’r DU adael yr UE ar 31/12/2020 (Dyddiad Cwblhau’r Cyfnod Gweithredu – IPCD)

Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd nad oes ganddynt gytundeb Hawliau Pleidleisio ac Ymgeisyddiaeth dwyochrog â’r DU ar hyn o bryd ac nad ydynt yn wledydd y Gymanwlad yw
 

AwstriaGroeg
Gwlad BelgHwngari
BwlgariaYr Eidal
CroatiaLatfia
Gweriniaeth TsiecLithwania
Estonia Yr Iseldiroedd
Y FfindirRomania
FfraincSlofacia
Yr AlmaenSlofenia
 Sweden

Yn y canllawiau hyn rydym yn cyfeirio at y gwledydd hyn fel yr UE19. 

I gael rhagor o wybodaeth am hawliau a gedwir a statws preswylydd sefydlog (neu statws preswylydd cyn-sefydlog), gweler ein canllawiau ar Gall dinesydd o’r Undeb Ewropeaidd gofrestru i bleidleisio?

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Medi 2024