Yr adolygiad ar sail data

Cam cyntaf yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd yw cynnal adolygiad yn seiliedig ar ddata i nodi dinasyddion cymwys yr UE a dinasyddion yr UE sydd â hawliau a gedwir ar eich cofrestr. 1  Gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol gadw neu gael mynediad at ystod o ddata at ddiben eu dyletswyddau cofrestru ac nid yw'r ddeddfwriaeth yn rhagnodol ynghylch pa ddata y gellir ei ddefnyddio at y diben hwn. Fodd bynnag, disgwylir y dylai’r data cenedligrwydd a gedwir ar y Feddalwedd Rheoli Etholiadol fod yn ddigonol i chi sefydlu a yw etholwr yn ddinesydd o’r UE5 neu’r UE19.

Mae dinasyddion gwledydd UE5 yn gymwys i barhau i fod wedi’u cofrestru i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu fel dinasyddion cymwys yr UE. Ni fyddai’n briodol cynnal adolygiad ar sail gohebiaeth lle mae gennych ddata cenedligrwydd UE5 ar gyfer etholwr gan y byddwch eisoes wedi penderfynu ei gymhwysedd i gael ei gofrestru eisoes. Dylid anfon cadarnhad o gymhwysedd a gynhelir at yr etholwyr hyn - yn seiliedig ar ddata.

Os yw rheswm arall yn rhoi achos i chi amau a yw'r etholwr yn bodloni'r meini prawf cenedligrwydd, dylid defnyddio dull adolygu arall. Ceir rhagor o wybodaeth am ddulliau adolygu yn ein canllawiau.

Os oes gan eich Meddalwedd Rheoli Etholiadol hanes cofrestru digonol i nodi a oedd dinesydd UE19 wedi’i gofrestru cyn dyddiad dechrau’r cyfnod gweithredu (IPCD), gallwch benderfynu ei fod yn gymwys i barhau i fod wedi’i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu fel dinesydd yr UE sydd â hawliau a gedwir ac yna rhaid iddynt anfon Cadarnhad o Gymhwysedd a Gynhelir.2

Pan fo dinesydd wedi’i gofrestru â chenedligrwydd aelod o’r UE19 ni fydd neb wedi gofyn iddo o’r blaen am y wybodaeth am ei breswyliad hanesyddol fel rhan o’i gais gwreiddiol, ac felly, rhaid i chi adolygu’r etholwyr hyn gan ddefnyddio’r adolygiad ar sail gohebiaeth os: 3

  • nid ydych yn gallu penderfynu a yw rhywun yn gymwys i barhau i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, oherwydd nad ydych yn gallu gweld eu hanes cofrestru
  • mae eich cofnodion yn dangos eu bod wedi cofrestru ar ôl dyddiad dechrau’r cyfnod gweithredu ac ni allwch gael mynediad at unrhyw ddata arall i bennu pwynt cofrestru cynharach a pharhaus

Rydym wedi darparu canllawiau ar y camau y bydd angen i chi eu dilyn fel rhan o’r cam hwn o’r Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Ebrill 2024