Datgan canlyniad swyddogol Refferendwm yr UE yn cael ei ddatgan gan y Comisiwn Etholiadol ym Manceinion
Sylwadau gan y Prif Swyddog Cyfrif
Mae'r Prif Swyddog Cyfrif ar gyfer Refferendwm yr UE, Jenny Watson sydd hefyd yn Gadeirydd y Comisiwn Etholiadol wedi datgan y canlyniad swyddogol ar gyfer refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
Y cyfanswm o bapurau pleidleisio a gyfrwyd oedd 33,577,342
Mae'r datganiad wedi cadarnhau bod 48.1% o bleidleisiau (16,141,241) wedi eu bwrw o blaid AROS a 51.9% o bleidleisiau (17,410,742) wedi eu bwrw o blaid GADAEL.
Mae hyn yn golygu bod y DU wedi pleidleisio i GADAEL yr Undeb Ewropeaidd.
Y nifer cenedlaethol a bleidleisiodd, gyhoeddwyd yn gynharach yn y nos oedd 72.2%
Cyfanswm y papurau pleidleisio a wrthodwyd oedd 25,359.
Dywedodd Jenny Watson, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol a Phrif Swyddog Cyfrif Refferendwm yr UE:
Hoffwn ddiolch i bawb oedd yn rhan o gynllunio, paratoi a rhedeg y refferendwm yma. Hoffwn ddiolch i bob un o'r 382 o Swyddogion Cyfrif, y Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'r miloedd o staff etholiadol ledled y DU a Gibraltar sydd wedi gweithio’n ddiflino dros y misoedd diwethaf i ddarparu refferendwm y gall pleidleiswyr fod yn hyderus ynddo.
I gael mwy o wybodaeth:
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol a grëwyd gan Senedd y DU. Ein hamcan yw hygrededd a hyder y cyhoedd ym mhroses ddemocrataidd y DU. Rydym yn rheoleiddio cyllid pleidiau ac etholiadau ac yn gosod safonau ar gyfer etholiadau a gynhelir yn dda, ac rydym yn gyfrifol am gynnal a rheoleiddio refferenda a gynhelir yn unol â Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda (2000).
- Bydd y canlyniad cenedlaethol, cyfanswm rhanbarthol a chyfansymiau ar gyfer pob un o'r 382 o ardaloedd cyfrif ar gael cyn bo hir.
- O'r 25,359 o bapurau pleidleisio a wrthodwyd:
- Gwrthodwyd 232 am ddim marc swyddogol.
- Gwrthodwyd 9,084 gan y pleidleisiwyd dros y ddau ateb
- Gwrthodwyd 836 gan fod ysgrifen neu farc lle y gellir adnabod y pleidleisiwr
- Gwrthodwyd 15,207 gan eu bod heb eu marcio neu'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd