Datganiad i'r wasg: Vote Leave
Diweddariad byr
Heddiw (dydd Gwener 29 Mawrth), mae Vote Leave wedi dod â'i apêl a'r achos cysylltiedig yn erbyn y Comisiwn Etholiadol i ben.
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol:
Heddiw, mae Vote Leave wedi tynnu ei apêl yn ôl a'r achos cysylltiedig yn erbyn canfyddiad y Comisiwn Etholiadol o sawl trosedd o dan y gyfraith etholiadol, a gyflawnwyd yn ystod ymgyrch refferendwm yr UE yn 2016.
Vote Leave oedd ymgyrchydd arweiniol dynodedig y canlyniad gadael yn y refferendwm. Gwnaethom ganfod ei fod wedi torri'r rheolau etholiadol a bennwyd gan y Senedd er mwyn sicrhau tegwch, hyder a chyfreithlondeb. Mae troseddau difrifol o'r fath yn tanseilio hyder y cyhoedd yn ein system ac mae'n hanfodol, felly, yr ymchwilir yn briodol iddynt ac y caiff y bobl hynny eu cosbi.
Mae Vote Leave bellach wedi talu ei ddirwy o £61,000 yn llawn.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau y Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.