Datganiad i'r wasg - ymateb i ddatganiad Gwasanaeth Erlyn y Goron
Ymateb erlyn
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol:
Mae'r gwerthusiad gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn eu cyhoeddiad heddiw yn cyd-fynd gydag un y Comisiwn, oedd o'r farn bod cofnod gwariant y blaid Geidwadol yn anghyflawn ac yn wallus, gan ei fod yn cynnwys gwariant y dylid fod wedi'i gynnwys yng nghofnodion gwariant yr ymgeiswyr.
Mae'r rheolau a osodir gan Senedd y DU i reoleiddio cyllid pleidiau gwleidyddol yn glir a sefydledig, maent yn bodoli i sicrhau tryloywder yn y system ac i danategu hyder y cyhoedd yn ein prosesau democrataidd.
Mae angen i bleidiau ac ymgeiswyr i sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n llawn gyda'r cyfrifoldebau yn unol â'r gyfraith. Bydd y Comisiwn yn parhau i ddarparu canllawiau a chyngor i bleidiau ac eraill i sicrhau eu bod yn glir o ran y rheolau, gan gynnwys y cyfnod ymgyrchu presennol yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU.
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau uniondeb drwy: Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, gyda'r nod o wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
- Yn ei adroddiad ymchwiliol i gofnod gwariant y Blaid Geidwadol ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2015, nododd y Comisiwn ei gasgliadau bod y Blaid Geidwadol wedi adrodd yn anghywir bod costau'r bws ymgyrchu wedi'i ddyrannu i wariant plaid, lle y dylai fod wedi'i ddyrannu fel gwariant ymgeisydd.