Datganiad y Comisiwn Etholiadol ar Etholiad Cyffredinol Senedd y DU a drefnwyd ar gyfer 8 Mehefin
Y datganiad
Yn dilyn penderfyniad Tŷ'r Cyffredin i basio cynnig i gynnal Etholiad Cyffredinol Senedd y DU ar ddydd Iau Mehefin 8 2017, dywedodd Claire Bassett, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol:
Rwy'n hyderus y bydd y gymuned etholiadol yn barod i gyflwyno etholiad sy'n cael ei rhedeg yn dda ac yn ennyn hyder pleidleiswyr ar draws y DU. Bydd ein canllawiau ar gyfer ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr di-blaid ar ein gwefan yfory i'w helpu i gydymffurfio â'r holl reolau yn yr etholiad hwn.
Mae’r dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio mewn ychydig o wythnosau a dylai unrhyw un nad ydynt wedi'u cofrestru eto wneud cais ar www.gov.uk/cofrestruibleidleisio. Mae ond yn cymryd ychydig o funudau i gwblhau'r cais.
Dyddiadau pwysig i bleidleiswyr
- Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw Dydd Llun 22 o Fai. Dylai unrhyw un sydd heb gofrestru i bleidleisio wneud cais nawr ar www.gov.uk/cofrestruibleidleisio. Ni fydd angen i unrhywun a oedd wedi'i gofrestru i bleidleisio yn Refferendwm yr UE; neu sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau lleol mis Mai i ail-gofrestru er mwyn cymryd rhan yn yr Etholiad Cyffredinol 2017.
- Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy'r post yw 5pm, Dydd Mawrth 23 o Fai.
- Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, lle mae pleidleisiwr yn enwebu person i ymddiried ynddo i fwrw pleidlais ar eu rhan, yw 5pm, Dydd Mercher 31 o Fai.
- Mae dinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor ac wedi cael eu cofrestru i bleidleisio yn y DU yn ystod y 15 mlynedd diwethaf yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwn. Dylai unrhyw un sydd heb gofrestru eto wneud cais ar www.gov.uk/cofrestruibleidleisio
- Cyngor y Comisiwn Etholiadol i ddinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor sydd ddim yn siwr a oes digon o amser i dderbyn bleidlais drwy'r post a’i ddychwelyd i'r DU erbyn diwrnod y bleidlais, yw y dylid wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy.
- Ar diwrnod y bleidlais, Dydd Iau 8 Mehefin bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm.
- Mae gwybodaeth am bleidleisio yn yr etholiad hwn ar gael yn www.dybleidlaisdi.co.uk
Diwedd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa'r Wasg - Y Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd ac yn sicrhau ei chywirdeb trwy:
- galluogi etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael â'r amgylchedd newidiol er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - yn cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a dilyn achosion o dorri
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth, gan anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac yn adrodd i'r Seneddau'r DU a'r Alban.