Datganiad y Comisiwn Etholiadol ar hygyrchedd etholiadau
Argymhellion cyhoeddedig
Heddiw mae Swyddfa'r Cabinet wedi cyhoeddi argymhellion i helpu etholiadau fod yn fwy hygyrch i bleidleiswyr ag anableddau, yn dilyn galwad am dystiolaeth.
Gan ymateb i'r argymhellion, dywedodd Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth Etholiadol a Chanllawiau'r Comisiwn Etholiadol:
Dylai pawb, beth bynnag fo'u hamgylchiadau, fod yn gallu cymryd rhan mewn etholiadau a bwrw eu pleidlais yn hyderus. Ry'n ni'n croesawu argymhellion Llywodraeth y DU ar wneud y system etholiadol yn fwy hygyrch, ac yn awyddus i weld gwelliannau yn eu lle cyn gynted â phosibl.
Byddwn yn parhau i weithio ledled y DU gyda llywodraethau, sefydliadau anabledd a phawb sy'n rhan o gynnal a rhedeg etholiadau i sicrhau nad oes rhwystrau i bleidleisio. Mae hyn yn cynnwys cryfhau'r gefnogaeth yr ydym yn ei rhoi i weinyddwyr er mwyn iddyn nhw helpu pleidleiswyr gydag anableddau i gofrestru a phleidleisio.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau y Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth,
- gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Cyflwynwyd adroddiad 'Etholiadau i bawb' y Comisiwn ym mis Tachwedd 2017 fel ei ymateb i alwad am dystiolaeth Llywodraeth y DU, oedd yn gofyn am farn ar sut mae pobl ag anableddau'n canfod cofrestru i bleidleisio a phleidleisio. Cynhaliodd y Comisiwn ymchwil gyda phleidleiswyr ag anableddau a siaradodd gyda nifer o elusennau i hysbysu'r adroddiad hwn.