Datganiad y Comisiwn Etholiadol ar ymchwiliad i Leave.EU
Diweddariad yr ymchwiliad
Meddai llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol:
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi dechrau ymchwiliad i ffurflen gwariant Leave.EU ar gyfer Refferendwm yr UE. Mae hyn yn dilyn asesiad a ddaeth i’r casgliad bod seiliau rhesymol dros amau bod troseddau wedi’u cyflawni o bosibl o dan y gyfraith.
Mae’r ymchwiliad yn canolbwyntio ar a yw un neu fwy o roddion nas caniateir - gan gynnwys gwasanaethau – wedi eu derbyn gan Leave.EU; a ph’un a oedd ffurflen gwariant Leave.EU yn gyflawn.
Mae faint o amser a gymerir i gwblhau ymchwiliad yn amrywio yn ôl yr achos unigol. Unwaith y bydd yr ymchwiliad wedi’i gwblhau, bydd y Comisiwn yn penderfynu a fu achosion o dor-cyfraith ac, os felly, pa gamau pellach a all fod yn briodol, yn unol â’i Bolisi Gorfodi. Gellir gweld canlyniad achosion wedi’u cwblhau ar wefan y Comisiwn.
Diwedd
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.