Datganiad y Comisiwn Etholiadol ynghylch Momentum
Diweddariad yr ymchwiliad
Heddiw (7 Rhagfyr 2017) mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi ei fod wedi agor ymchwiliad i weld p'un a bod Momentum, ymgyrchydd nad yw'n blaid gofrestredig wedi torri rheolau cyllid ymgyrchu yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017 o ran gwariant.
Mae'r rheolau sy'n llywodraethau gwriant yn etholiad cyffredinol Senedd y DU gan gyfranogwyr a ganiateir, gan gynnwys ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, wedi'u gosod yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(PPERA).
Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar:
- p'un a bod Momentum wedi gwario mwy na'r terfynau gwario ar gyfer ymgyrchydd nad yw'n blaid anawdurdodedig yn etholiad cyffredinol Senedd y DU;
- p'un a bod Momentum wedi cyflwyno cofnod nad oedd yn cynnwys gwybodaeth rhoddion yn gywir a/neu'r datganiad sy'n nodi bod y cofnod rhoddion yn gywir a chyflawn;
- p'un a bod Momentum wedi cyflwyno cofnod nad oedd yn ddatganiad o daliadau cyflawn o ran gwariant a reolir;
- p'un a bod Momentum wedi cyflwyno cofnod nad oedd yn cynnwys yr holl anfonebau am daliadau mwy na £200.
Mae'n bosib, yn ystod yr ymchwiliad, y bydd y Comisiwn yn nodi achosion o dorri'r rheolau a/neu droseddau yn unol â PPERA heblaw'r rheiny a nodir uchod.
Caiff holl ymchwiliadau'r Comisiwn eu cynnal yn unol â'n Polisi Gorfodi.
Dywedodd Bob Posner, Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio a Chwnsler Cyfreithiol y Comisiwn Etholiadol:
Mae Momentum yn gorff ymgyrchu proffil uchel. Mae cwestiynau ynghylch eu cydymffurfiaeth gyda'r rheolau ymgyrchu yn etholiad cyffredinol Senedd y DU ym mis Mehefin yn arwain at risg i hyder y cyhoedd mewn etholiadau. Mae budd y cyhoedd yn sylweddol i ymchwilio i Momentum i benderfynu ar y ffeithiau yn yr achos yma, a p'un a bod troseddau wedi eu cyflawni ai peidio.
Unwaith bydd wedi'i gwblhau, bydd y Comisiwn yn penderfynu p'un a bod unrhyw gamau pellach yn addas, yn unol â'r polisi gorfodi.
Rheolau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Mae rheolau wedi bod yn eu lle ers 2000 i'r holl ymgyrchwyr sy'n gwario arian ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Mae'r rheolau hyn yn cynnwys ymgyrchwyr a sefydliadau ymgyrchu nad ydynt yn bleidiau gwleidyddol ond y gellir ystyried eu gweithgareddau fel eu bod wedi'u bwriadu i ddylanwadu pleidleiswyr yn y cyfnod cyn etholiad.
Mae'r gyfraith yn galluogi'r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau hyn i ymgymryd â 'gwariant wedi' dargedi' sydd wedi'i fwriadu i ddylanwadu ar bobl i bleidleisio am blaid wleidyddol gofrestredig neu un o'i ymgeiswyr o fewn y terfynau gwario rhagnodedig. Rhain yw £31,980 yn Lloegr; £3,540 yn yr Alban; £2,400 yng Nghymru; a £1,080 yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r terfynnau gwario hyn yn berthnasol yn ystod y cyfnod a reoleiddir sef 9 Mehefin 2016 i 8 Mehefin 2017.
Dim ond os oes gan ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau hawl i wario mwy na'r terfynnau hyn os oes ganddynt hawl gan y blaid wleidyddol maent yn hyrwyddo. Os yw'r blaid yn awdurdodi, gall ymgyrchydd nad yw'n blaid wario nes y terfyn y caniateir gan y blaid wleidyddol. Mae'n drosedd gwario mwy na'r terfynnau statudol heb awdurdodiad y blaid. Pe bai'r blaid yn rhoi awdurdodiad am derfyn gwario uwch, byddai unrhyw wariant gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid hyd at y terfyn hynny yn cyfrif tuag at derfyn gwario cenedlaethol y blaid.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Mae polisi gorfodi'r Comisiwn Etholiadol ar gael yma: http://www.electoralcommission.org.uk/cymru/our-work/roles-and-responsibilities/our-role-as-regulator-of-political-party-finances
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Mae'r rheolau o ran 'gwariant wedi'i dargedu' yn Adran 94 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Mae'r symiau y mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn gallu gwario ar 'wariant wedi'i dargedu' yn Neddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu rhai nad ydynt yn bleidiau a Gweinyddiaeth Undebau Llafur 2014.