Beth yw ymateb llwyddiannus i e-ohebiaeth?

Beth yw ymateb llwyddiannus i e-ohebiaeth?

Rhaid i chi gael ymateb i e-ohebiaeth gan o leiaf un etholwr ar aelwyd o fewn cyfnod rhesymol o amser, hyd yn oed pan na fydd unrhyw newidiadau i'r wybodaeth ar gyfer yr eiddo hwnnw.1
 
Gellir diffinio ymateb llwyddiannus i e-ohebiaeth fel un sydd naill ai:2  

  • yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth yn gyflawn a chywir
  • yn rhoi gwybodaeth newydd am bwy sy'n byw yn yr eiddo
  • yn rhoi gwybodaeth newydd am newidiadau sydd angen eu gwneud i fanylion etholwr
  • yn rhoi gwybodaeth newydd sy'n dangos nad yw etholwr presennol yn byw yn yr eiddo mwyach

neu'n rhoi unrhyw gyfuniad o'r uchod.

Dim ond gan un etholwr y gwnaethoch gysylltu ag ef drwy e-ohebiaeth y mae angen i chi gael ymateb llwyddiannus i fod yn fodlon eich bod wedi cael ymateb ar gyfer yr eiddo hwnnw.3

Gwneud ymholiadau ychwanegol

Gallwch wneud ymholiadau ychwanegol os cewch ymateb sy'n dangos y gall newid fod wedi digwydd yn yr eiddo ond nad yw'n cynnwys digon o wybodaeth i roi ymateb llwyddiannus fel uchod.

Ar ôl gwneud ymholiadau ychwanegol, os byddwch yn llwyddo i gael y wybodaeth angenrheidiol i roi ymateb llwyddiannus, gallwch gau'r llwybr a chymryd unrhyw gamau ychwanegol sy'n ofynnol, er enghraifft, dechrau'r broses ITR ar gyfer preswylwyr newydd yn yr eiddo. 

Os na fyddwch yn llwyddo i gael y wybodaeth angenrheidiol i roi ymateb llwyddiannus, rhaid i chi drosglwyddo'r eiddo i Lwybr 2 – y llwybr eiddo heb ei baru, am na allwch fodloni eich hun nad oes unrhyw newid i'r eiddo. Er enghraifft, gall ymateb awgrymu bod darpar etholwyr newydd yn yr eiddo ond efallai na fyddant wedi rhoi eu henwau. Os na fyddwch yn llwyddo i gael enwau'r darpar etholwyr newydd ar ôl gwneud ymholiadau ychwanegol, byddai angen i chi symud yr eiddo i Lwybr 2.

Pa gamau i'w cymryd os na cheir ymateb

Lle na cheir ymateb o fewn cyfnod rhesymol o amser, rhaid i chi anfon CCA i'r eiddo.4  Fodd bynnag, gallwch ddewis anfon e-ohebiaeth atgoffa cyn anfon y CCA.
 
Er na chaiff cyfnod rhesymol o amser ei ddiffinio mewn deddfwriaeth, yn ein barn ni, ni ddylai hyn fod yn hwy na 28 diwrnod a gall fod yn fyrrach mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft, lle rydych yn nesáu at gwblhau'r canfasiad neu lle mae etholiad ar fin cael ei gynnal).
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Mawrth 2021