Dirwy o £18,000 i'r Democratiaid Rhyddfrydol am dorri rheolau cyllid ymgyrchu
Canlyniadau'r ymchwiliad
Mae manylion dirwyon o £18,000 i'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi eu cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol; mae hyn yn dilyn ymchwiliad ddarganfu fod y blaid wedi methu â chwblhau cofnod gwariant cyflawn a chywir fel cyfranogwr a ganiateir yn Refferendwm yr UE.
Mae'r cyfanswm, sy'n agos at fwyafswm dirwy unigol y Comisiwn o £20,000, wedi'i wneud o ddwy ddirwy. Rhoddwyd y ddirwy gyntaf o £17,000 am fethu â darparu anfonebau na derbynebau am 80 o daliadau gyda chyfanswm o dros £80,000. Mewn rhai achosion, ni ddarparwyd anfonebau na derbynebau o gwbl, ac mewn achosion, darparwyd rhai nad oedd yn ddigonol, megis datganiadau cerdyn credyd, neu nid oeddent yn gyflawn. Rhoddwyd yr ail ddirwy o £1,000 gan fod rhai taliadau wedi'u hadrodd wedi'u cydgrynhoi yn hytrach na fel taliadau unigol. Y dyddiad cau i dalu'r ddirwy yw 3 Ionawr 2018.
Wrth wneud sylw ar y dirwyon, dywedodd Bob Posner, Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio a Chwnsler Cyfreithiol y Comisiwn Etholiadol:
Mae'r gofynion adrodd ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr mewn refferenda ac etholiadau'n glir, dyna pam ei bod hi'n siomedig na wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol eu dilyn yn gywir. Mae'n rhaid i'r prif bleidiau gwleidyddol sicrhau bod eu trefniadau mewnol yn cael digon o fuddsoddiad ac adnoddau fel eu bod yn gallu bod yn sicr eu bod yn bodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol. Pan nad yw'r rheolau'n cael eu dilyn, caiff tryloywder ei golli nad yw ym mudd y cyhoedd nac fel y bwriadwyd gan y Senedd.
Mae hyn yn rhan o ddiweddariad ymchwiliadau misol rheolaidd y Comisiwn, sy'n rhan bwysig o'i ymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol yn y DU. Mae'r Comisiwn hefyd wedi cyhoeddi manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben, gan gynnwys un i Open Britain a nifer o bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau eraill.
Open Britain
Mae Open Britain (yn gynt Britain Stronger i Europe) wedi cael dirwy o £1,250 am fethu â darparu cofnod gwariant cyflawn a chywir ar gyfer Refferendwm yr UE. Rhoddwyd dirwy o £1,000 gan fod rhai taliadau wedi eu hadrodd wedi'u cydgrynhoi yn hytrach na thaliadau unigol, a £250 arall o ran tair anfoneb na ddarparwyd. Mae Open Britain bellach wedi talu'r ddirwy gyfan.
Dirwyon eraill
Mae'r Comisiwn hefyd wedi cyhoeddi manylion tair dirwy sylweddol arall a roddwyd heddiw:
- Rhoddwyd dirwy o £2,500 i Immigrants Political Party am ddanfon ei ddatganiad o gyfrifon 2016 ac adroddiad chwarterol rhoddion a benthyciadau yn hwyr
- rhoddwyd dirwy o £1,850 i Traditional Unionist Voice am ddanfon adroddiadau cyn y bleidlais ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017; datganiad o gyfrifon 2016; a chofnod gwariant ymgyrchu ar gyfer Etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon 2017;
- Rhoddwyd dirwy o £1,350 i Labour Campaign for Human Rights am adrodd rhoddion gan gymdeithas aelodau'n hwyr;
Mae manylion dirwyon sy'n amrywio o £200 i £750 a roddwyd i 14 o bleidiau gwleidyddol, derbynwyr a reoleiddir ac ymgyrchwyr Refferendwm yr UE hefyd wedi eu rhyddhau heddiw.
Mae'r diweddariad ymchwiliadau misol llawn, sy'n cynnwys manylion pob ymchwiliad sydd wedi cau'n ddiweddar gan y Comisiwn, ar gael ar ein gwefan yma.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol drwy
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Mae'n gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae'r diweddariad ymchwilio llawn, sy'n cynnwys manylion yr holl ymchwiliadau sydd wedi'u cwblhau gan y Comisiwn yn ddiweddar, ar ein gwefan yma: http://www.electoralcommission.org.uk/cymru/our-work/roles-and-responsibilities/our-role-as-regulator-of-political-party-finances/sanctions
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.